Cymwysterau Cymru yn Addas i'r Diben? Trafodwch
Ym mis Medi 2011 bu i Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Dros Sgiliau, gyhoeddi Adolygiad Cymwysterau Cymru. Caiff yr Adolygiad ei chadeirio gan Huw Evans OBE.
Cwestiwn allweddol: Ydy system gymwysterau Cymru a'r cymwysterau eu hunain yn addas i'r diben? Ymunwch a'r drafodaeth arlein: http://qualificationsconference.pbworks.com Bu'r fforwm yn rhagflaenu cynhadledd genedlaethol ar gymwysterau ar 2 Chwefror 2012 - ac yn parhau am dair wythnos wedi'r gynhadledd, er mwyn bwydo'r Adolygiad Cymwysterau swyddogol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Trefnir y drafodaeth arlein a'r gynhadledd gan GolegauCymru mewn partneriaeth a Llywodraeth Cymru. Gwahoddir arweinwyr, rheolwyr, athrawon a dysgwyr. Mae'r ffocws ar y cymwysterau sydd ar gael i'r ystod oed 14-19. Disgwylir y bydd cyfranogwyr yn cynnwys addysg bellach, ysgolion, addysg uwch, darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith, ac hefyd cyrff dyfarnu, cynghorau sgiliau sector, partneriaethau dysgu 14-19, Estyn a chynrychiolwyr cyflogwyr.
Cynhadledd Genedlaethol ar Gymwysterau
Dyddiad/Lleoliad: 2 Chwefror 2012 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd
Trefnydd: ColegauCymru mewn partneriaeth a Llywodraeth Cymru.
Pwrpas: Dod ag arweinwyr addysg a hyfforddiant ynghyd i drafod dyfodol cymwysterau 14-19 yng Nghymru. Rhoi cyfle am ddadl ledled y sector i fwydo i’r Adolygiad Cymwysterau a gaiff ei gadeirio gan Huw Evans OBE.
Siaradwyr allweddol
Jeff Cuthbert AC Dirprwy Weinidog dros Sgiliau
Yr Athro Alison Wolf
Huw Evans OBE
Cadeirydd y gynhadledd
Jason Mohammad
Prif themâu’r Adolygiad Cymwysterau:
- nodi’r cymwysterau mwyaf perthnasol ac sydd ar gael i ddysgwyr – sy’n cynnwys pa gymwysterau sydd â’r gwerth mwyaf a pha rai sydd fwyaf perthnasol
- meddu ar ffydd yn y cymwysterau a’u deall
- sicrhau asesiadau priodol sy’n ffurfio rhan o’n cymwysterau
- llwybrau dilyniant clir ar gyfer cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol
- cymwysterau sy’n parhau’n addas i’r diben ac yn hyblyg i ymateb i’n hanghenion newidiol fel cymdeithas ac economi.
Yn Lloegr, nododd adolygiad mawr o Addysg Alwedigaethol 14-19 sy’n cael ei gadeirio gan yr Athro Alison Wolf bedair prif egwyddor i’w diwygio:
- rhaid i’r system rhoi’r gorau i ‘dracio’ pobl 14 i 16 oed i gyrsiau ‘heb ddyfodol’
- rhaid gwneud y system yn onest er mwyn peidio â gwthio pobl ifanc i wneud penderfyniadau niweidiol
- rhaid symleiddio’r system yn ddramatig i dynnu cymhellion gwrthnysig ymaith
- dylai Lloegr ddysgu arfer gorau o wledydd sy’n gwneud pethau’n well na ni, fel Denmarc, Ffrainc a’r Almaen.
Cynulleidfa darged
Colegau addysg bellach, ysgolion, sefydliadau addysg uwch, darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith, cyrff dyfarnu, cynghorau sgiliau sector, partneriaethau dysgu 14-19, Adran Addysg a Sgiliau, Estyn.
Wedi'r gynhadledd
Fe'ch gwahoddir i gyfrannu i fforwm trafod arlein. Mae'n agored i bawb. Mae'r fforwm trafod yn gosod cwestiynau sy'n berthnasol i'r Adolygiad Cymwysterau. Cewch ymateb i pa faint bynnag o'r cwestiynau y dymunwch. Caiff y trafodaethau eu rhannu yn y gynhadledd. http://qualificationsconference.pbworks.com
Bydd trafodion y gynhadledd a’r trafodaethau ar-lein yn bwydo i adroddiad terfynol a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Adolygiad Cymwysterau.