6 Chwefror 2012

Prentisiaid yn buddio o sgiliau ieithoedd tramor

Heddiw, ar ddechrau Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, mae ColegauCymru yn dathlu cyfle newydd i brentisiaid wella eu sgiliau mewn ieithoedd tramor a chael profiad gwaith gwerthfawr mewn gwahanol wledydd yn Ewrop, diolch i raglen lleoliadau gwaith sy’n cael ei chydgysylltu gan CollegesWales International.

Yn yr economi fyd-eang gystadleuol iawn, mae gwybodaeth o ieithoedd tramor modern o fudd aruthrol. Gellir cael hyd i yrfaoedd galwedigaethol sy’n gludadwy yn rhyngwladol ym meysydd adeiladu, arlwyo, addysg, gweinyddu busnes, peirianneg, therapi harddwch, a mwy. Mae sgiliau technegol a meddal lefel uchel a phrofiad o ddiwylliannau eraill a chrap ar iaith arall yn cynnig cyfuniad dihafal.

Meddai Cydgysylltydd CollegesWales International, Siân Holleran, sy’n siarad pedair iaith ei hun: "Mae’r rhaglen lleoliadau gwaith Ewropeaidd yn uchelgeisiol a heriol i ddysgwyr. Mae’n golygu bod prentisiaid yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am wneud gwaith mewn cwmni yn Ewrop. Rhaid iddyn nhw ymaddasu i ddiwylliant newydd, dod ymlaen gyda chydweithwyr newydd a chyfathrebu mewn iaith anghyfarwydd drwy gydol eu harhosiad. Mae’n brofiad gwych sy’n aeddfedu rhywun ac yn gyfle i feithrin sgiliau.
“Mae’r rhaglen lleoliadau gwaith yn cynnwys sesiynau paratoi ieithyddol a diwylliannol, sy’n golygu nad oes angen gwybodaeth flaenorol o iaith swyddogol y wlad lle mae’r prentis yn mynd. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod cefndir yn yr iaith berthnasol yn llwyfan werthfawr.”

Mae Charlotte Hodgens a Joseph Barry yn brentisiaid gyda’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn Abertawe. Maent yn hyfforddi i fod yn fentoriaid, yn gweithio gyda throseddwyr ifanc a phobl ifanc sydd ‘mewn perygl’ yn ardal Abertawe. Aethant ar leoliad tair wythnos yn yr Eidal yr hydref diwethaf, gan fentora grŵp amrywiol o interniaid o amryw o wledydd Ewropeaidd. Cafodd y paratoadau ar gyfer eu lleoliad eu cydgysylltu gan CollegesWales International gyda chymorth Coleg Gŵyr Abertawe, a’u trefnu yn yr Eidal gan Centro Servizi Cultura Sviluppo Srl.

Gan annerch 120 o ddisgyblion ysgol ym mhedwaredd gynhadledd flynyddol “Cymru, Ewrop a’r Byd”, a gynhaliwyd ddydd Gwener diwethaf, esboniodd Joseph y cysylltiadau rhwng eu gwaith fel prentisiaid gyda’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a’u lleoliad gwaith yn yr Eidal.  “Yn Abertawe, rydyn ni’n rhoi cymorth i blant hŷn a phobl ifanc hyd at 16 oed. Yn yr Eidal, roedd yr interniaid roedden ni’n eu mentora’n hŷn, 17 oed a mwy, ond roedd eu hanghenion am gymorth yn debyg. Roedd yr interniaid roedden ni’n eu cynorthwyo’n byw mewn gwlad estron am hyd at ddeng mis, heb adnabod neb a heb wybodaeth flaenorol o’r Eidaleg. Ein gwaith ni oedd eu mentora drwy gyfnodau adnodd a meithrin ysbryd teuluol a morâl”.

Meddai Charlotte: “Mae’n bwysig gwneud y gorau o’r cyfleoedd rydych chi’n dod ar eu traws. Roedd yn codi ofn braidd, ond roedd mor werth chweil. Doeddwn i erioed wedi bod i wlad dramor ar fy mhen fy hun cyn y lleoliad gwaith hwn, felly roedd yn brofiad boddhaol iawn i mi yn bersonol ac yn fodd i mi aeddfedu. Hefyd, er ’mod i wedi dysgu rhywfaint o Eidaleg yn y coleg cyn i mi fynd i’r Eidal, y ffordd orau i ddysgu iaith yw ei defnyddio. Dyna wnes i, ac mewn tair wythnos yn unig gwellodd fy sgiliau iaith yn fawr. Dwi mor falch ’mod i wedi cael y cyfle hwn. Mae hon yn profi i fod yn brentisiaeth wych!”

Dywedodd Janice Hall, Arweinydd Tîm Uned Cynhadledd Grŵp Tîm, sy’n rhan o’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid: “Mae hwn wedi bod yn gyfle anhygoel i’r hyfforddeion fyw a gweithio yn yr Eidal a hefyd i ymwneud bob dydd â chynifer o ddiwylliannau gwahanol gan fod CSCS yn darparu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc o amryw o wledydd Ewropeaidd. Mae’r profiad wedi bod yn foddhaol iddyn nhw yn bersonol ac mae hefyd wedi darparu tystiolaeth ar gyfer eu cymhwyster galwedigaethol.”

------------------------------------Diwedd----------------------------------

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. ColegauCymru is a national educational charity that represents all 20 further education (FE) colleges and institutions in Wales. Its mission is to raise the profile of further education with key decision-makers to improve opportunities for learners in Wales. For further information about ColegauCymru and the colleges it represents, visit www.colegaucymru.ac.uk or www.collegeswales.ac.uk

2. CollegesWales International is the international arm of ColegauCymru.

3. The European work placement programme organised by CollegesWales International is funded by the Leonardo Programme - part of the European Union’s Lifelong Learning Programme http://www.leonardo.org.uk/

4. In the first year of the CollegesWales International programme, 30 apprentices from colleges across Wales are being supported in work placements in Spain and Italy. Other countries in Europe have already signalled their interest to become involved in the programme if CollegesWales International is successful in its funding bit to continue the programme beyond 2011/12.

5. Four apprentices from the Youth Offending Service who study at Gower College Swansea, including Charlotte and Joseph, went to Italy in September/October 2011. In Wales, the work placements were coordinated by ColegauCymru. The placements were organised in Italy by Centro Servizi Cultura Sviluppo Srl (CSCS).  CSCS is a vocational training provider which is also active in the field of student and staff mobility and supports European educational providers to plan and implement work placements in Italy through www.italymobility.com

6. Charlotte and Joseph were speaking at “Wales, Europe & the World” – a conference to promote languages in the workplace for 14-19 year olds. The conference was organised by Routes into Languages Cymru and took place at Cardiff City Hall on Friday 3 February 2012.

 

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500