Arian am Oes – Dau gymhwyster newydd

Mae rhaglen Arian am Oes yn cynnig dau gymhwyster newydd mewn gallu ariannol i oedolion, a achredir gan Rwydwaith y Coleg Agored (RhCA). Achredir y rhaglenni yn llawn.

Teach Me

  • Ydych chi’n edrych i wella’ch gwybodaeth am allu ariannol?
  • Hoffech deimlo’n hyderus yn y cymorth a rowch i ddysgwyr?
 MFL Teach Me image
  • Hoffech deimlo fod gennych ddealltwriaeth dda o amrywiaeth o bynciau gallu ariannol craidd, goblygiadau eithrio ariannol a ffynonellau cyngor a chymorth?
Cwrs ar-lein yw Teach Me y gallwch ei gwblhau mewn prin 30 awr ac mae’n addas i unrhyw un sy’n edrych i wella’u gallu ariannol. Mae’n hynod briodol i ymarferwyr addysg bellach, athrawon a gweithwyr cymunedol.

Cliciwch yma am wybodaeth ac i gofrestru

Teach Others

 

 MFL Teach Others image
  • Ydych chi eisiau gallu addysgu dysgwyr i ddeall arian?
  • Ydych chi eisiau iddynt gael y sgiliau i reoli eu harian yn well?

Nod y cwrs byr hwn yw galluogi’r sawl sy’n gweithio mewn swyddi heb fod yn swyddi addysgu mewn addysg bellach, canolfannau allgymorth ac asiantaethau allanol yn y gymuned i allu addysgu gallu ariannol i bobl eraill.

Trwy ddilyn y cwrs, byddwch yn cael:

  • sgiliau hwyluso sylfaenol
  • yr hyder i gyflwyno rhaglenni neu weithdai byrion
  • cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol 

Cliciwch yma am wybodaeth ac i gofrestru

Gwybodaeth bellach

Rydym yn cynnig lleoedd wedi’u hariannu’n llawn ar y cwrs hwn fel rhan o raglen Arian am Oes. Cysylltwch â Julia Owens am wybodaeth bellach.

 

Dyddiadau a Lleoliadau Teach Others 2012/13

Lleoliad  Dydd 1 Dydd 2
Llandrillo yn Rhos: Coleg Llandrillo, Grŵp Llandrillo Menai   Mer 19 Medi Mer 3 Hyd
Caerdydd: Swyddfeydd ColegauCymru  Iau 20 Medi Mer 3 Hyd
Abertawe: Coleg Gŵyr Abertawe Maw 13 Tach   Maw 27 Tach
Bangor: Canolfan Rheolaeth Bangor Gwe 26 Hyd Gwe 9 Tach
Casnewydd: Gwesty'r Hilton Llun 19 Tach Llun 3 Rhag
Merthyr Tudful: Integrated Child Centre  Llun 12 Tach Iau 29 Tach
Wrecsam: Coleg Glannau Dyfrdwy  Mer 9 Ion Mer 23d Ion

 

Her Arian am Oes

Gwnewch Gais am Gwrs!

Cliciwch yma i gwblhau ffurflen gais am 'Teach Me' neu 'Teach Others' neu ffoniwch Julia Owens ar 029 2052 2500.

Rhaglen Arian am Oes

Am wybodaeth ar Raglen Arian am Oes, gan gynnwys allbynnau gweithgareddau'r gorffennol a mentrau cyfredol cliciwch yma.

Bu rhaglen Arian am Oes dan sylw yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 9 Mai 2012, pan fu partneriaid a dysgwyr yn nodi cyrraedd meincnodai pwysig. Darllenwch yr hanes: Arian am Oes Dan Sylw'n y Senedd 

Beth yw Gallu Ariannol?

1. y gallu i gael rheolaeth ar arian
2. cadw trefn ar gyllid a gwariant
3. cynllunio o flaen llaw
4. gwneud penderfyniadau gwybodus ar gynhyrchion arian a
5. sichrau gwybodaeth gyfredol ar faterion ariannol.

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500