Beth sy' mlaen

Gan fynd drwy'r calendr o Ionawr i Ragfyr, ceir dolenni isod i'r prif ddigwyddiadau a'r seremoniau y mae  ColegauCymru yn arwain neu yn cymryd rhan ynddynt gyda chefnogaeth ei aelodau-golegau. 

 

Y Calendr

Wythnos Arian sy'n dechrau'r galendr ddigwyddiadau yn y flwyddyn newydd.

Bu rownd derfynol Cymru yr Her Arian am Oes yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 23 Ebrill, gyda'r rownd derfynol mawreddog y DU ar 23 Mai 2013.  

Caiff Wythnos Ddysgu Oedolion ei drefnu gan Niace Dysgu Cymru mewn cydweithrediad a nifer o golegau ac eraill ym mis Mai. Mae ColegauCymru'n falch iawn i gefnogi y Gwobrau Ysbrydoli! a lwyfanwyd eleni ar 16 Mai.

Cynhelir cynhadledd flynyddol ColegauCymru ar 2 Mai 2013 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Caiff y gynhadledd ei dilyn gyda Seremoni Wobrwyo fawreddog gyda'r nos  

Diwrnod VQ Eleni cynhelir Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol - Diwrnod VQ - ar draws y DU ar 5 Mehefin 2013.  Llwyfanir seremoni wobrwyo ar gyfer Dysgwr VQ y Flwyddyn a Chyflogwr VQ y Flwyddyn yng nghampws newydd Ngholeg Morgannwg yn Nantgarw.  Yn ogystal, fe fydd digwyddiadau ar draws Cymru, o'r gogledd i'r de a draw i'r gorllewin yn annog pawb i droi eu llaw at sgil alwedigaethol newydd.        

Fe fydd ColegauCymru a nifer o'i aelod-golegau yn Sioe Frenhinol Llanelwedd 22-25 Gorffennaf 2013.

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Sir Ddibych 3-10 Awst.  Bydd ColegauCymru yn lansio perthynas gref gyda phartner allweddol yno. Mwy o fanylion i ddilyn... 

Yr Eisteddfod Genedlaethol: logo

Cystadleuaeth fyd-eang yw WorldSkills, gyda thimoedd cenedlaethol o bobl ifainc hynod alluog yn cystadlu am fedalau ar draws 46 o ddisgyblaethau galwedigaethol ac am safle uchel ar restr goreuon y byd. Daeth WorldSkills i'r DU ym mis Hydref 2011.  Bob yn ail flwyddyn caiff WorldSkills ei llwyfannu. Fe'i gwelir nesaf yn Leipzig, Yr Almaen yn 2013.

Rhwng 14-16 Tachwedd fe fydd y Skills Show ym Mirmingham am yr eildro. Dyma yw etifeddiaeth ymweliad WorldSkills a'r DU. Mae ColegauCymru a'i aelod-golegau yn cyd-weithio'n agos a Llywodraeth Cymru a'r Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i lwyfanu arddangosfa o sgiliau Cymru.

Ym mis Tachwedd mae: Wythnos Mentergarwch Byd-Eang.

 

Mae'n brysur ar y naw...!

Mae ColegauCymru yn helpu trefnu/cydlynu calendr ddifyr o ddigwyddiadau Cymru gyfan (a rhai DU gyfan). Trefnir y mwyafrif mewn partneriaeth ag eraill. Maent i gyd yn cynnwys colegau AB Cymru.

 

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500