Wales-Chongqing FE Consortium team

Tîm y Consortiwm Addysg Bellach Cymru-Chonqging:
Bryn Davies, Cadeirydd; Grace Tan, Swyddog y Consortiwm yn Chongqing; Sian Holleran, Swyddog Rhyngwladol ColegauCymru.

Tsieina

Erbyn hyn Tsieina yw’r economi mwyaf ond un yn y byd. Mae’n ferw o entrepreneuriaeth ac yn llawn dop o ddiwydiannau sydd ar flaen y gad. Mae gan Chongqing – y ddinas sy’n tyfu gyflymaf o holl ddinasoedd y byd – boblogaeth o 7 miliwn mewn rhanbarth gweinyddol â phoblogaeth o 31 miliwn. Mae ganddi uchelgeisiau anferth. Eisoes mae’n cynhyrchu traean o’r holl liniaduron yn y byd a thraean o’r holl feiciau modur yn Tsieina. Hefyd mae’n anelu at fod yn ganolfan technoleg gwybodaeth y byd.

Sefydlwyd cysylltiad rhwng Chongqing a Chymru yn y flwyddyn 2000 trwy argymhelliad personol Prif Weinidog Tsieina, Wen Jiabao, yn ystod ei ymweliad â Chymru.

Llofnodwyd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyntaf rhwng Chongqing a Chymru yn 2006. Nodwyd nifer o feysydd ar gyfer cydweithredu posibl a llofnodwyd Cytundeb Cydweithredu ffurfiol yn 2008. Mae’r berthynas wedi mynd o nerth i nerth, ac erbyn hyn mae’n cynnwys cydweithredu ym meysydd datblygiad economaidd, yr amgylchedd a’r newid yn yr hinsawdd, gwyddoniaeth a thechnoleg, coedwigaeth ac amaethyddiaeth, addysg, iechyd, y celfyddydau a diwylliant.

Consortiwn Cymru-Chongqing

Ym mis Mehefin 2011 bu i 11 o golegau addysg bellach Cymru ffurfio consrtiwm Cymru-Chongqing dan faner CollegesWales (UK) International, sy'n cael ei reoli gan ColegauCymru.  

Y sefydliadau addysg bellach sy'n rhan o'r consortiwm yw:
  • Coleg Penybont
  • Coleg Ystrad Mynach
  • Coleg Morgannwg
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Coleg Caerdydd a'r Fro
  • Coleg Gwent
  • Coleg Powys
  • Coleg Llandrillo Cymru
  • Coleg Glannau Dyfrdwy
  • Coleg Ial Wrecsam
  • Coleg Harlech WEA (N) a WEA (S)

Mae'r consortiwm yn cyflogi Grace Tan,sydd wedi ei lleoli yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Chongqing, China, er mwyn cynrychioli'r consortiwm yn Tsieina.  Caiff ei chefnogi gan grŵp ymgynghorol sy'n cynnwys colegau, busnesau lleol, y Cyngor Prydeinig a Llywodraeth Cymru. Lansiwyd y Consortiwm yn Tsieina gan y Gwir Anrh Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, ar 25 Hydref 2011.

Pwrpas y Consortiwm  

Mae uchelgeisiau Chongqing yn creu heriau penodol. Mae’n ehangu ar raddfa na ellir ei dychmygu yng Nghymru. Mae angen iddo integreiddio a hyfforddi rhyw 8 miliwn o weithwyr sy’n mudo o’r wlad i swyddi sydd newydd gael eu creu.

Felly mae’n awyddus i ddatblygu partneriaethau gyda cholegau addysg bellach Cymru er mwyn manteisio ar eu hanes rhagorol o lwyddo wrth ddatblygu sgiliau galwedigaethol perthnasol a’u harbenigedd wrth weithio gyda byd diwydiant.

Mae’r datblygiad hwn yn rhoi cyfle gwych i Gymru, ei cholegau a’i dysgwyr, i ddysgu oddi wrth Chongqing ac i ehangu golwg myfyrwyr Cymru ar eu lle yn economi’r byd.

Prif flaenoriaethau’r Consortiwm:

  • Cyfnewidiau diwylliannol rhwng myfyrwyr yng Nghymru a Tsieina
  • Dewisiadau astudio rhyngwladol
  • Gwaith gyda chymheiriaid mewn colegau yn Chongqing i gryfhau systemau sicrhau ansawdd a datblygu arbenigeddau’r cwricwlwm
  • Archwilio’r potensial ar gyfer hyfforddiant corfforaethol mewn cwmni ac uwchsgilio gweithwyr a thechnegwyr ymfudol yn Chongqing sy’n cyflym ddatblygu.
ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500