27 Ionawr 2012

Colegau’n croesawu cynnydd yn y cyllid ar gyfer sgiliau

Mae colegau yng Nghymru wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i fuddsoddi mewn sgiliau oedolion a Llwybrau at Brentisiaethau – rhaglenni sydd â’r nod penodol o roi sylw i anghenion sgiliau pobl ifanc ac oedolion yn y cyfnod economaidd anodd hwn.

Roedd y colegau’n disgwyl mai mentrau dros dro fyddai’r rhaglenni Llwybrau at Brentisiaethau a sgiliau oedolion, y bwriadwyd iddynt fod yn ymateb un-tro i’r dirwasgiad yn 2010. Ond mae cyflogwyr yn dal i’w chael yn anodd cyflogi prentisiaid, ac mae pobl ifanc yn ogystal ag oedolion sydd heb ddigon o sgiliau, yn dal i’w chael yn anodd cael swydd am y tro cyntaf. Mae’r colegau wedi croesawu’n frwd penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau â’r ddwy raglen werthfawr hyn am y flwyddyn academaidd nesaf.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: “Mae’r hinsawdd economaidd anodd yn effeithio ar fusnesau, teuluoedd ac unigolion. Mae datblygu sgiliau parod am waith yn hollbwysig i gael troed ar yr ysgol cyflogaeth a dyma’n union mae rhaglenni Llwybrau at Brentisiaethau a sgiliau oedolion wedi’u bwriadu i’w wneud.

“Mae’r rhaglenni hyn yn galw am lawer o adnoddau ac mae’r colegau’n disgwyl i Lywodraeth Cymru osod targedau llym ar gyfer eu cyflenwi. Ond maen nhw’n werthfawr i bob unigolyn all fynd â’i sgiliau newydd ymlaen i gyflogaeth neu ddysgu pellach.”

Aeth Dr Graystone ymlaen: “Mae ’na fwy o newyddion da. Dros yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, mae colegau Cymru wedi canolbwyntio’n galed ar wella ansawdd y ffordd y cyflenwir addysg a hyfforddiant, yn ogystal â rheolaeth ariannol, ac wedi llwyddo i ragori ar dargedau perfformiad Llywodraeth Cymru. Mae’r dyraniadau cyllid sydd newydd gael eu rhyddhau i golegau ar gyfer 2012/13 yn dangos bod Llywodraeth Cymru’n cymryd sylw o broffil ansawdd uchel y sector addysg bellach, trwy ymddiried mwyfwy mewn colegau i wireddu ei hagenda anodd.

"Yn ychwanegol at barhau â rhaglenni Llwybrau at Brentisiaethau a sgiliau oedolion, ac fel y nodwyd yn y gyllideb ddrafft y llynedd, bydd cyllid craidd y colegau’n codi 2.5% yn y flwyddyn academaidd nesaf. Rydym yn deall yn llwyr mai codiad mewn arian parod yw hwn a’i bod yn debyg nad wir godiad ydyw yn y pen draw oherwydd pwysau chwyddiant a’r enillion effeithlonrwydd a ddisgwylir. Serch hynny, mae’r colegau’n sylweddoli ei bod yn adeg o gyni a bod hyd yn oed codiad mewn termau arian parod yn unig yn rhywbeth sy’n werth ei nodi."

Dywedodd Dr Graystone i gloi: “Pobl ifanc sydd angen rhaglen sgiliau ffocysedig, oedolion mae eu hangen i godi lefelau eu sgiliau’n daer, colegau sydd yn aml yn teimlo bod penderfynwyr yn eu hanghofio pan ddaw’n bryd rhannu cyllid cyhoeddus prin... bellach mae gan y rhain i gyd reswm dros godi eu calonnau.” 
----------------------------------Diwedd---------------------------------

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 20 coleg addysg bellach (AB) a’r dau sefydliad AB yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru ar colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2012/13 i golegau a sefydliadau addysg bellach ar ddydd Iau 26 Ionawr 2012. Cododd y dyraniadau 2.5% yn nhermau arian parod o’u cymharu â 2011/12 a chyhoeddwyd parhad dwy ffrwd ariannu: Llwybrau at Brentisiaethau a sgiliau oedolion. 

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500