Colegau’n Falch o’u Cydweithrediadau
Mae colegau addysg bellach wedi ymroi eu hymdrechion i gydweithrediadau sy’n denu mwyfwy o bobl i ddysgu un flwyddyn ar ôl y llall, gyda phenaethiaid ysgolion, cyflogwyr a dysgwyr yn troi allan i gefnogi cais eu coleg lleol i ennill Gwobrau Colegau Cymru 2010.
Roedd ansawdd y ceisiadau ar gyfer y Gwobrau eleni’n hynod uchel. Mae gan y paneli arbenigol o feirniaid waith mawr o’u blaenau wrth ddewis enillwyr o’r rhestrau byr cryf iawn.
Mae beirniadu Gwobrau ColegauCymru 2010 bellach wedi cyrraedd y cam terfynol yn dilyn yr holl golegau ar y rhestr fer yn cwblhau cyflwyniadau.
Dywedodd Berni Tyler, Pennaeth Ansawdd ColegauCymru: “Mae’r colegau wedi codi’r safon eleni. Mae colegau’n gweithio gyda’u rhwydweithiau lleol ac yn tynnu’n fwyfwy ar arbenigedd o’r tu allan i sector y colegau. Mae’r amrywiaeth o bartneriaid ehangach wedi cyfoethogi cyflwyniadau’r colegau.”
Yn dilyn y duedd gyffredinol tuag at gynnwys rhwydweithiau lleol ac ehangu partneriaethau, mae’n briodol mai’r categori “Cydweithrediad 14-19 Effeithiol” sydd wedi denu’r cystadlu mwyaf brwd yng Ngwobrau ColegauCymru 2010.
Mae cydweithrediad llwyddiannus yn cyflawni mwy na swm ei rannau. Roedd hi’n bleser gan y beirniaid ddod o hyd i raglenni ansawdd uchel cyson gyda lefel arweinyddiaeth uwch gref ac, yn allweddol bwysig, mwy o ddysgwyr yn cymryd rhan o ganlyniad i’r partneriaethau.
Dywedodd Dr John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru: “Yn ogystal â’r wyth categori o Wobrau sydd ar gael i golegau eleni, mae’n bleser mawr bod Gwobrau ColegauCymru 2010 yn cydnabod Dysgwr y Flwyddyn ac Athro/Athrawes y Flwyddyn.
“Mae’n bwysig i ni gofio drwy’r amser mai diben colegau yw cefnogi dysgwyr wrth gyrraedd eu nodau. Mae athrawon rhagorol yn allweddol wrth alluogi dysgwyr i gyflawni, ac mae’n iawn iddynt gael eu cydnabod ar y llwyfan cenedlaethol..
“Dysgwyr eithriadol yw straeon llwyddiant colegau wrth reswm. Mewn rhai achosion, mae dysgwyr yn mynd ati i sefydlu gyrfaoedd gwych ac i ennill gwobrau ar lefel y DU a hyd yn oed ar lefel fydeang. Mae eraill yn dechrau yn y coleg ar ôl ystyried eu hunain yn ‘fethiant addysgol’ ond maent yn dal i fyny’n gyflym iawn gyda, ac mewn rhai achosion, yn rhagori ar eu cyfoedion yn eu cyflawniadau dysgu. Mae ColegauCymru yn falch iawn o allu cydnabod eu cyflawniadau a noddi Gwobr Dysgwr y Flwyddyn.”
Casglodd Dr Graystone: “Mae seremoni wobrwyo ColegauCymru yn ddathliad difyr, bywiog o’r gorau sydd gan golegau Cymru i’w cynnig. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y seremoni wobrwyo ar 27 Mai pan fydd noddwyr Gwobrau 2010 yn cyflwyno’u gwobrau i’r enillwyr haeddiannol ac i gymeradwyaeth frwd heb os nac oni bai.”
--------------------------------------Diwedd-------------------------------------
Cyswllt: Sylvia Davies, rhif ffôn 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i’r golygydd:
1. ColegauCymru yw'r corff cenedlaethol sy'n cynrychioli y 21 o golegau addysg bellach (AB) a'r ddau sefydliad AB yng Nghymru. Cafodd ei adnabod fel "fforwm" tan ei ail-enwi yn 2009. is the new name for fforwm. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a’r colegau y mae yn ei gynrychioli, ewch at www.colegaucymru.ac.uk
2. Categorïau Gwobrau ColegauCymru 2010 a’u noddwyr yw:
Gwobrau ar gyfer unigolion
- Dysgwr y Flwyddyn (ColegauCymru)
- Athro/Athrawes y Flwyddyn (LLUK)
Gwobrau ar gyfer sefydliadau
- Cydweithrediad 14-19 effeithiol (OCR)
- Arloesedd yn arweinyddiaeth a rheolaeth addysg alwedigaethol (City & Guilds/ILM)
- Defnydd rhagorol o dechnoleg (RSC Wales)
- Cysylltiad y coleg â chyflogwyr (Edexcel)
- Dychwelyd i ddysgu ac ehangu ei gwmpas (Agored Cymru)
- Rhagoriaeth mewn Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) (Llywodraeth Cynulliad Cymru)
- Defnydd effeithiol o declun meincnodi Tribal (Tribal)
- Adnoddau Dysgu Digidol (WJEC)
3. Ceir manylion y gwobrau a’r rhestr fer ar gyfer pob category o http://www.colegaucymru.ac.uk/gwobrau_blynyddol-28.aspx
4. Daw’r seremoni wobrwyo a chynhadledd ColegauCymru i ben. Fe’i cynhelir ar noson 27 Mai 2010 yng ngwesty’r Hilton, Caerdydd. Mae rhaglen y gynhadledd a’r ffurflen archebu ar gyfer y gynahdledd a’r seremoni worbwyo ill dau ar gael o: http://www.colegaucymru.ac.uk/cynhadledd_flynyddol_2010-33.aspx