Mae’r Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW) yn ddull o gydnabod cymwysterau a mathau eraill o hyfforddiant trwy ddyfarnu credydau. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i bobl ennill cymwysterau trwy ddilyn llwybrau hyblyg. Bydd yn haws cymharu gwahanol fathau o gymwysterau a gweld yn gliriach beth yw ystyr pob cymhwyster, ei lefel, hyd a lled ei gynnwys a faint o amser sydd ei angen i’w gwblhau.
Bydd y Fframwaith yn ei gwneud hi’n bosibl i hyfforddiant arbenigol a dderbynnir yn y gweithle gael ei gydnabod, fel bod ganddo werth ychwanegol i sefydliadau ac unigolion. Bydd hefyd yn bosibl cael eich hyfforddiant eich hun wedi ei ymgorffori mewn cymwysterau ffurfiol.
O fis Medi 2010 ymlaen, bydd pob cymhwyster galwedigaethol yng Nghymru yn dod yn rhan o’r Fframwaith Credydau a Chymwysterau.
Disgwylir i'r newidiadau annog cyflogwyr i alw am fwy o gymwysterau ar gyfer eu gweithlu. Bydd Fframwaith Cymwysterau hefyd yn galluogi unigolion i ennill credydau - sef cydnabyddiaeth am gyflawni unedau o ddysgu - ac i adeiladu ar y stoc o gredydau maent yn eu hennill tros gyfnod o amser ac i gyfnewid y stoc o gredydau i gymwhyster cydnabyddedig maes o law. Gobeithir y bydd y gallu i gynilo credydau o ddysgu tros gyfnod yn annog dysgu gydol oes a mwy o barodrwydd i ymgymryd mewn hyfforddiant.
Cyfloedd ar gyfer colegau AB
Bu i Lywodraeth Cynulliad Cymru gomisiynu ColegauCymru i weithio gyda'r sector addysg bellach i rhoi'r newidiadau yma ar waith. Mae ColegauCymru wedi gweithio gyda grwipau gwaith o ymarferwyr allweddol/uwch-reolwyr o bob sefydliad AB yng Nghymru. Maen nhw wedi edrych yn fanwl ar oblygiadau'r rhaglen newid a'r datblygiadau sy'n cymryd lle yn Lloegr a'r Alban, ac wedi cynnal trafodaethau gyda'r prif randdeiliaid i oresgyn sialensau cychwynnol.
Cyfleoedd ar gyfer cyflogwyr
Drwy gydol 2010 bu ColegauCymru, mewn cydweithrediad ag APADGOS, yn cynnal seminarau ar gyfer darparu cyfle i gyflogwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn natblygiad y gweithlu gael dysgu rhagor am y cynllun newydd pwysig hwn a’i arwyddocâd i fusnesau.