27 Mehefin 2011
Y Cyfnewid Dysgu Seiliedig ar Waith Cyntaf rhwng Cymru a Sbaen
Daeth y lleoliadau dysgu seiliedig ar waith cyntaf rhwng Cymru a Sbaen i ben yn llwyddiannus heddiw wrth i ddau ddysgwr galwedigaethol fynd yn ôl i Sbaen. Bu’r ddau’n gweithio yng Nghymru am wyth wythnos gyda chwmnïau sy’n arbenigo mewn gosod a chynnal a chadw systemau ynni adnewyddadwy.
Mae’r ddau, Manel Margalef Mateu, 21 oed, a Martí Montagut Martí, 22 oed, yn dod i ddiwedd cwrs tair blynedd sy’n canolbwyntio ar gynnal a chadw cyfarpar diwydiannol wedi’u haddasu i’r sector ynni adnewyddadwy yn yr Institut Pere Martell, Tarragona, yn Sbaen. Mae lleoliad gwaith asesedig yn rhan orfodol o’u cwrs.
Mae eu coleg, yr Institut Pere Martell, wedi bod yn trefnu lleoliadau gwaith i’w fyfyrwyr blwyddyn olaf ers nifer o flynyddoedd, yn Sbaen a hefyd yn Ffrainc a’r Ffindir. Ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw weithio gyda chwmnïau yng Nghymru: Manel a Martí oedd yr unig rai yn eu grŵp a ddaeth i Brydain.
Lleolwyd Marti gyda Solar Installations Wales yng Nghastell Nedd, ar ôl i Goleg Gŵyr Abertawe wneud y cysylltiad cyntaf gyda’r cwmni, a lleolwyd Manel gyda Green Home Wales ym Mro Gŵyr.
Mae’r ddau hyfforddai wedi gweithio gydag amrywiaeth fawr o osodiadau ynni adnewyddadwy ac wedi dod yn brofiadol mewn cydosod a chynnal a chadw systemau trydan solar a dŵr poeth solar, pympiau gwres a silindrau dŵr poeth pwysedd uchel heb fent.
Dywedodd Gareth Thomas, Cyfarwyddwr cwmni Solar Installations Wales, fod Marti wedi ymaddasu i dasgau newydd yn dda ac wedi magu sgiliau a hyder trwy’r rhaglen i gyd. Roedd sgiliau mwy meddal hefyd yn agwedd bwysig ar ffitio i mewn i’r tîm, a daeth Marti ymlaen yn dda gyda’r tîm yn ogystal â’r cwsmeriaid. Gwellodd ei Saesneg yn fawr iawn yn ystod ei arhosiad.
Mae’n amlwg bod lleoliad Manel gyda Green Home Wales yn llwyddiant mawr. Mae Manel wedi ennill ffrindiau da ymysg tîm Green Home a chafodd ei ganmol gan lawer o'r cleientiaid. Gwnaeth argraff mor dda nes i’r cwmni gynnig ymestyn ei leoliad.
Meddai Cyfarwyddwr cwmni Green Home Wales, Dee McCullough: “Alla i ddim credu bod y cyfnod ar ben! Byddwn ni’n bendant yn gweld eisiau Manel – wnaethon ni geisio ei ddarbwyllo i aros ychydig yn hirach!”
Y lleoliadau gwaith hyn, a gyd-gysylltwyd yng Nghymru gan GolegauCymru, oedd y cyntaf mewn cyfres sy’n cael eu trefnu i fyfyrwyr o Ewrop ddod i Gymru ar gyfer dysgu seiliedig ar waith rhyngwladol. Cyn bo hir bydd myfyrwyr o Gymru’n cael cyfleoedd i gael lleoliadau gwaith yn Ewrop.
Mae nifer y cyfnewidiadau galwedigaethol a diwylliannol rhwng Cymru ac Ewrop yn cynyddu. Fel arfer, mae grŵp o fyfyrwyr yn ymweld â gwlad dramor ynghyd â’u tiwtor am ychydig o ddyddiau, gan aros mewn gwesty.
Ond mae’r cynllun cyfnewid dysgu seiliedig ar waith newydd hwn yn llawer mwy uchelgeisiol a heriol i’r dysgwyr. Mae’n cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr unigol yn y gweithle. Mae eu tiwtoriaid yn eu helpu i ymsefydlu yn y wlad lle maent yn aros, ond wedyn yn dychwelyd adref, gan adael y dysgwyr i ofalu amdanynt eu hunain. Mae’n rhaid iddynt ymdopi ar eu pen eu hunain mewn gwlad estron, cyfathrebu mewn iaith anghyfarwydd, dod ymlaen gyda chydweithwyr mewn amgylchedd newydd, ac weithiau gyda theulu lleol.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: “Mae ColegauCymru yn gweithio’n galed i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru ehangu eu gorwelion a dod o hyd i’w lle yn yr economi fyd-eang.
“Dyma’r tro cyntaf i GolegauCymru gydgysylltu lleoliadau gwaith i fyfyrwyr o wledydd eraill yn Ewrop. Rwyf wrth fy modd y bu’n llwyddiant i’r ddau gwmni yng Nghymru, i’r myfyrwyr ac i’w coleg yn Sbaen. Mae’n argoeli’n dda ar gyfer lleoliadau rhyngwladol yn y dyfodol rhwng Cymru a gwledydd eraill yn Ewrop. Yn wir, mae tri myfyriwr arall ar leoliadau gwaith yn cyrraedd o Sbaen heddiw.
“Rwy’n edrych ymlaen at ehangu’r cyfleoedd hyn i Gymru ac i ddysgwyr Cymru.”
------------------------------------Diwedd-----------------------------------
Cysylltwch â: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
1. Enw blaenorol ColegauCymru oedd fforwm. Elusen addysgol genedlaethol ydyw sy’n cynrychioli pob un o’r 21 o golegau a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Ei chenhadaeth yw codi proffil addysg bellach gyda gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. I gael mwy o wybodaeth am GolegauCymru a’r colegau mae’n eu cynrychioli, ewch i www.colegaucymru.ac.uk neu www.collegeswales.ac.uk
2. Mae Solar Installations Wales, Castell Nedd, yn gwmni sy’n cymryd agwedd datrysiad cyfan at ynni adnewyddadwy, gan weithio gyda chwsmeriaid domestig, amaethyddol neu fasnachol.
3. Mae Green Home Wales, Abertawe, yn cynnig gwasanaethau cynllunio, cyflenwi, gosod a chynnal a chadw ym maes ynni adnewyddadwy i ddeiliaid tai preifat, busnesau, cymdeithasau tai, y sector cyhoeddus, elusennau a grwpiau cymunedol.
4. Ariannwyd y lleoliadau gwaith trwy raglen cyfnewid myfyrwyr Erasmus. Trefnwyd yr arian gan yr Institut Pere Martell yn Sbaen.