Cyhoeddi Cystadleuaeth am Ragoriaeth mewn Addysg Bellach

Disgwylir cystadlu brwd rhwng colegau addysg bellach eleni wrth i gategorïau Gwobrau ColegauCymru 2011 agor i geisiadau.   Mae’r gwobrau’n adnabod a dathlu rhagoriaeth mewn addysg bellach.

Maent yn cynnig cyfle i arddangos rhagoriaeth ac arfer orau ar draws ystod eang o feysydd ac maent yn ffurfio rhan o waith ColegauCymru i godi safonau drwy hunan reoleiddio.  

Y gwobrau ar gyfer colegau a sefydliadau addysg bellach yw:

  • Defnydd effeithiol o’r Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru (CQFW) i gysylltu â chyflogwyr
  • Adnoddau dysgu digidol
  • Arweinyddiaeth effeithiol wrth gyflwyno sgiliau
  • Ymarfer eithriadol wrth gynnal a gwella ansawdd
  • Arloesedd wrth ymateb i lais y dysgwr
  • Defnydd eithriadol o dechnoleg
  • Defnydd arloesol o gynllunio’r cwricwlwm  

Yn ogystal, cynigir dwy wobr i adnabod dysgu ac addysgu ardderchog gan unigolion:

  • Athro/Athrawes y Flwyddyn
  • Dysgwr y Flwyddyn.  

Dywedodd Berni Tyler, Pennaeth Ansawdd ColegauCymru: “Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflawniad rhagorol, yn tynnu sylw at ehangder y ddarpariaeth mewn sefydliadau addysg bellach ac yn cydnabod y cydweithredu rhwng sefydliadau a chyrff eraill.

“Mae ColegauCymru yn falch iawn o dderbyn nawdd am y gwobrau oddi wrth nifer o gyrff dylanwadol.  Maen nhw i gyd yn cydnabod y cystadlu brwd am y gwobrau, ac maent yn gweld y gwobrau yn symbyliad i wella ansawdd ar draws y sector gyfan.”  

Bydd seremoni i gyhoeddi’r buddugwyr yn cael ei gynnal yn ystod cinio Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru ar 26 Mai 2011 yng Nghaerdydd.

 --------------------------------Diwedd---------------------------------

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Elusen addysgiadol genedlaethol yw ColegauCymru sy’n cynrychioli pob un o’r 21 o golegau a sefydliadau addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ac i wella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar ColegauCymru a’r colegau mae’n eu cynrychioli, gweler www.colegaucymru.ac.uk
  2. Mae manylion y gwobrau a ffurflen gais ar gael o: http://www.colegaucymru.ac.uk/cy-GB/annual_awards-28.aspx
  3. Noddwyr Gwobrau 2011:
  • Agored Cymru     
  • CBAC/Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu
  • ColegauCymru  
  • City & Guilds/Institute of Leadership & Management (ILM)
  • Dysgu Gydol Oes yn y DU (LLUK) Edexcel
  • OCR    
  • Tribal Education
  • UfI/Learndirect

4. Bydd y paneli sydd yn barnu’r ceisiadau ar gyfer Gwobrau ColegauCymru 2011 yn cynnwys staff uwch o gyrff dylanwadol sy’n debygol o gynnwys: Cyrff dyfarnu Estyn Llywodraeth Cynulliad Cymru Dysgu Gydol Oes yn y DU (LLUK) Tribal Education Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 25 Chwefror 2011.  Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni fydd yn cloi Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd ar 26 Mai 2011.

5. I noddi’r gynhadledd neu i arddangos yn y Gynhadledd Flynyddol a Chynhadledd Llywodraethwyr Addysg Bellach (25 Mai yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd) fel ei gilydd, cysylltwch â Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu ebostiwch Sylvia.davies@colegaucymru.ac.uk  

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500