7 Rhagfyr 2012
Cymwysterau Cymru yn Addas i'r Diben? Trafodwch.
Ydy’r system gymwysterau yng Nghymru a’r cymwysterau eu hunain yn addas i’r diben? Ymunwch â’r drafodaeth ar-lein ar http://qualificationsconference.pbworks.com – sef y rhagflaenydd i’r gynhadledd genedlaethol ar gymwysterau ar 2 Chwefror 2012 – a fydd yn cyfrannu at yr Adolygiad Cymwysterau swyddogol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Trefnir y drafodaeth ar-lein a’r gynhadledd gan GolegauCymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Gwahoddir arweinwyr, rheolwyr, athrawon a dysgwyr sy’n rhan o addysg a hyfforddiant i gymryd rhan. Mae’r ffocws ar y cymwysterau sydd ar gael i bobl 14 i 19 oed. Mae’r cyfranogwyr tebygol yn cynnwys colegau addysg bellach, ysgolion, sefydliadau addysg uwch a darparwyr dysgu seiliedig ar waith annibynnol, yn ogystal â sefydliadau dyfarnu, cynghorau sgiliau sector, partneriaethau dysgu 14-19, Estyn a chynrychiolwyr cyflogwyr.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru John Graystone: “Yn dilyn galwad y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews yn gynharach eleni am ddadl genedlaethol ar gymwysterau, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert AC, Adolygiad Cymwysterau ym mis Medi. Mae hwn yn adolygiad eithriadol o bwysig a fydd yn helpu ffurfio cyfeiriad ein system gymwysterau 14-19 ar gyfer y ddegawd nesaf o leiaf.
“Mae ColegauCymru yn awyddus i gynorthwyo a chefnogi bwrdd prosiect yr adolygiad i estyn allan a chasglu barnau’r sector addysg a hyfforddiant ehangach. Felly, rydym yn trefnu, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, fforwm trafod ar-lein sy’n agored i bawb fel lle i drafod llwybr cymwysterau i’r dyfodol yng Nghymru. Bydd cynhadledd genedlaethol ar gymwysterau yn dilyn ym mis Chwefror.”
Bydd y prif bwyntiau a ddaw i’r amlwg o’r drafodaeth ar-lein yn cyfrannu at y gynhadledd genedlaethol ar gymwysterau. Bydd cyfle pellach i gyfrannu at y drafodaeth ar-lein yn dilyn y gynhadledd, a bydd adroddiad terfynol ar y dystiolaeth a gasglwyd i fwrdd prosiect yr Adolygiad yn cael ei gyflwyno gan GolegauCymru. Mae disgwyl i fwrdd prosiect yr Adolygiad gyflwyno’i adroddiad i’r Dirprwy Weinidog Sgiliau yn yr hydref 2012.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau Jeff Cuthbert AC: “Mae cael mynediad i system gymwysterau uchel ei pherfformiad, a ddeellir yn dda ac sy’n ymatebol yn hynod bwysig i ddysgwyr, addysgwyr, cyflogwyr a’r gymuned ehangach. Wrth ystyried y llwybr cymwysterau yng Nghymru i’r dyfodol, mae’n hollbwysig fod ein trafodaethau a’n penderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth glir.
“Rwy’n falch iawn fod ColegauCymru wedi achub y blaen, ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi sefydlu fforwm trafod ar-lein agored lle bydd cynhadledd genedlaethol ar gymwysterau’n dilyn. Bydd y ddau gyfle hyn yn galluogi bwrdd prosiect yr Adolygiad i gasglu llawer o dystiolaeth berthnasol ynghylch yr hyn sy’n gweithio’n dda, yr hyn nad yw’n gweithio cystal â’r hyn y mae angen ei newid.”
-------------------------------Diwedd-----------------------------------
Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 2500 neu 07968 771913
Nodiadau
1. Mae ColegauCymru yn cynrychioli pob un o golegau addysg bellach Cymru. Mae'n elusen addysgiadol ac yn gwmni wedi ei gyfyngu trwy warant.
2. Mae'r fforwm trafod yma: http://qualificationsconference.pbworks.com
3. Cliciwch am raglen y gynhadledd: Adygiad Cymwysterau
4. Hashtag Twitter yw #QualsConf
5. Ar 29 Medi 2011 bu i'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau Jeff Cuthbert AC gyhoeddi Adolygiad Cymwysterau. Caiff yr Adolygiad ei gadeirio gan Huw Evans OBE. Cyhoeddwyd y rhestr gyflawn o fwrdd prosiect yr Adolygiad ar 6 Rhagfyr. Cynhelir cyfarfod cyntaf y bwrdd prosiect heddiw, 7 Rhagfyr.