VQ finalists and winner 2012

Gwobrau VQ 2012: yr enillydd a'r pump cydradd ail gyda'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, Jeff Cuthbert, a gwesteiwr Diwrnod VQ, Jonathan Davies.

Diwrnod VQ (Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol)

Pwrpas Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol (Diwrnod VQ) yw adnabod a dathlu llwyddiant.  

5 Mehefin 2013

Mae Gwobrau VQ ar agor i geisiadau!

Ceir dwy wobr eleni:
Dysgwr y Flwyddyn ac, yn newydd eleni,
Cyflogwr y Flwyddyn.

Mae'r gwobrau yn dathlu cyflawniadau arbennig dysgwyr galwedigaethol - dysgwyr cyfredol a chyn-ddysgwyr fel ei gilydd - ledled y DU.  Fe fydd paneli yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn dyfarnu'r ceisiadau yn eu priod-wlad.

I enewbu dysgwr neu gyflogwr, lawrlwythwch y ffurflen briodol:
 
Gwobr VQ 2013: ffurflen enwebu a chanllawiau Dysgwr y Flwyddyn
Gwobr VQ: Cyflogwr y Flwyddyn
 
Gadewch i ni wneud Diwrnod VQ yn ddiwrnod i'r chofio a dathlwn llwydiannau galwedigaethol gyda'n gilydd!

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer enewbiadau yw 8 Mai 2013.
 

Beth yw Diwrnod VQ

Mae Diwrnod VQ yn ddathliad o gyflawniad galwedigaethol ac ymarferol - nid yn unig ar gyfer unigolion ond hefyd ar gyfer y DU gyfan. O bobl ifanc yn eu harddegau i bobl ymhell dros eu canol oed, mae'r Diwrnod am ddathlu sgiliau newydd ac am hybu cydnabyddiaeth a pharch deilwng i gymwysterau safonol galwedigaethol ac academaidd fel ei gilydd.
 
Ni bu cymwysterau galwedigaethol erioed mor bwysig i'r economi a'r unigolyn. Maent yn darparu'r gweithwyr hyfforddedig, talentog y mae ar busnesau eu hangen, ac maent yn sicrhau bod pobl ifainc yn ennill y sgiliau sydd arnynt eu hangen i lwyddo mewn gwaith ac mewn addysg.  Mae'r llywodraeth yn buddsoddi mewn llwybrau galwedigaethol, yn cydnabod eu gwerth, ac yn awr, rydyn ni eisiau i bawb ddod at ei gilydd i gydnabod sut mae cymwysterau galwedigaethol safonol yn gallu gwella cyfleoedd bywyd a gwaith.

Proffiliau Diwrnod VQ

Cyhoeddwyd e-lyfr i ddathlu Diwrnod VQ yn 2012, sy'n cynnwys hanesion o lwyddiant unigolion - gan gynnwys enillydd Gwobr VQ 2012, 'Billy Elliot' go iawn, Adam Taylor, 18, o Ben-y-bont, a'r pump arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol.



Mae'r hanesion o lwyddiant galwedigaethol a gyhoeddwyd yn 2011 a 2010 hefyd ar gael o'r dolenni isod.

 

Neu cliciwch yma i'w gweld fel pdf:
Diwrnod VQ 2012: doniau ar waith (pdf)
Diwrnod VQ 2011 : doniau ar waith
Diwrnod VQ 2010: doniau ar waith

James Martin, celebrity chef, supports VQ Day

"At long last, vocational learners are getting the opportunity to stand up and say that they’re proud of their achievements. For far too long, vocational qualifications have been seen as the poor relation to their academic counterparts, and I’m glad to be part of the move to change this."

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500