28 Mai 2012

Dysgwyr Cymru i Wella’u Sgiliau yn Ewrop

Mae disgwyl i ragolygon dysgwyr colegau yng Nghymru gael hwb enfawr yn dilyn penderfyniad Rhaglen Dysgu Gydol Oes y Comisiwn Ewropeaidd i ddyfarnu €216,000 i CollegesWales (UK) International i ddatblygu sgiliau a chyflogadwyedd prentisiaid a myfyrwyr amser llawn trwy leoliadau gwaith yn Ewrop.

Mae CollegesWales (UK) International wrth ei fodd o fod wedi cael dwy flynedd arall o arian Leonardo da Vinci, gan ddyblu gwerth prosiect peilot hynod lwyddiannus y llynedd a ddaeth i ben fis diwethaf.

Nod y prosiect newydd yw cefnogi deuddeg coleg ledled Cymru i sicrhau a chefnogi lleoliadau gwaith o ddwy a thair wythnos o hyd yn Ewrop i fyfyrwyr a phrentisiaid amser llawn o Gymru, gan weithio gyda phartneriaid ar draws wyth gwlad Ewropeaidd arall. Bydd ystod y diwydiannau a’r mathau o leoliadau gwaith sy’n cael eu cynnwys yn y prosiect newydd yn cynyddu’n sylweddol, gan gwmpasu gofal plant, peirianneg, gwallt a harddwch, arlwyo ac amaethyddiaeth ymhlith eraill.
 
Bydd y prosiect yn adeiladu ar y partneriaethau a ddatblygwyd trwy flwyddyn beilot y lleoliadau gwaith. Yn ogystal, bydd colegau yng Nghymru’n cael cyfle i gryfhau’r partneriaethau eu hunain, a fydd yn cynorthwyo cynaliadwyedd lleoliadau cyfnewid Ewropeaidd i’r dyfodol.

Dywedodd John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru: “Rydw i wrth fy modd ac yn falch fod CollegesWales (UK) International wedi arwain cais ar y cyd mor aruthrol gyda chynifer o bartneriaid ledled Cymru ac Ewrop. Rydym wedi gwneud dechrau da dros y 12 mis diwethaf wrth ddatblygu cyfleoedd lleoliad gwaith yn Ewrop i brentisiaid o Gymru. Bydd y ddwy flynedd nesaf yn ein galluogi ni i ymgorffori cynaliadwyedd ac edrych ar leoliadau gwaith yn Ewrop fel rhan greiddiol o addysg a hyfforddiant galwedigaethol.

“Mae nifer o wledydd yn Ewrop eisoes wedi cyflawni tipyn o lwyddiant wrth ddatblygu sgiliau eu dysgwyr trwy raglenni datblygu sgiliau rhyngwladol fel hon. Rwy’n falch hefyd, trwy ymdrechion CollegesWales (UK) International, fod Cymru’n cael ei hychwanegu at y map Ewropeaidd ac y bydd dysgwyr o Gymru’n cael cyfleoedd tebyg i’w cyfoedion yn Ewrop ac yn gallu dysgu o arfer da mewn sawl gwlad. Rwy’n hynod falch fod y cais wedi’i raddio’n un ‘gwych’ gan y panel dyfarnu, gan wneud y cynnig yn un o’r rhai gorau yn y DU.”
----------------------------------Diwedd-----------------------------------

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 2500 or 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 19 coleg addysg bellach (AB) a’r dau sefydliad AB yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru ar colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Mae CollegesWales (UK) International yn ran o GolegauCymru.

3. Ym mis Mawrth 2011 clywodd ColegauCymru ei fod wedi llwyddo yn ei gais cyntaf am nawdd oddi wrth y rhaglen Leonardo - sef Rhaglen Dysgu am Oes y Comisiwn Ewropeaidd.  Prif nod y prosiect oedd galluogi lleoliadau gwaith yng ngwledydd Ewrop ar gyfer prentisiaid o Gymru.  Mae cyhoeddiad heddiw yn perthyn i'r ail gais a wnaed gan CollegesWales (UK) International am nawdd oddi wrth Leonardo. Fe fydd y prosiect newydd yn dechrau yn hwyrach eleni. 

 

CollegesWales (UK) International

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am CollegesWales (UK) International - adran ryngwladol ColegauCymru, neu cysylltwch â Sian Holleran.

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500