11 Ebrill 2011
Eich Tips Arian i Gymru, os gwelwch yn dda!
Byddai ychydig o awgrymiadau ariannol yn fuddiol i ni i gyd ac mae’n bosibl y gallai cystadleuaeth ‘Tips Arian i Gymru’ ein helpu i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus. O arbed y ceiniogau yn ein pocedi i arbed miloedd i Gymru, mae cystadleuaeth Tips Arian yn agored i’r holl syniadau gorau gan fyfyrwyr colegau cyn iddi gau ar 15 Ebrill.
Cystadleuaeth Tips Arian yw penllanw rhaglen digwyddiadau Wythnos Sgiliau Ariannol Barclays, sydd wedi rhoi awgrymiadau ac offer defnyddiol i filoedd o fyfyrwyr colegau ledled Cymru ar gyfer rheoli arian mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog gan gynnwys ‘steil ar arian bach’, ‘her y fasged siopa’, prawf blasu o’r enw ‘blas ar arian’ ac ‘awgrymiadau ariannol i’r teulu’. Dyma dri chategori’r gystadleuaeth:
- Tips arian i Gymru
- Tips arian i golegau
- Tips arian i unigolion
Dywedodd Berni Tyler o GolegauCymru, Rheolwr Rhaglen Wythnos Sgiliau Ariannol yng Nghymru: “Dw’i wrth fy modd fod tri chwarter yr holl golegau yng Nghymru wedi trefnu Wythnos Sgiliau Ariannol Barclays eleni gyda chymorth ColegauCymru a’r Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ariannol. Mae gwybod sut i gyllidebu a sut i gynilo yn sgiliau bywyd hanfodol y mae myfyrwyr eu hangen er mwyn gallu lleihau straen ariannol a chanolbwyntio ar eu nodau addysgol.
“Bellach mae gan ddysgwyr colegau gyfle i rannu eu sgiliau cyllidebu gorau a’u hawgrymiadau ariannol mwyaf defnyddiol gyda gweddill Cymru trwy gystadleuaeth Tips Arian. Mae’r gystadleuaeth yn ffordd hwyliog o helpu i fynd i’r afael â mater difrifol iawn, sef dysgwyr a allai fel arall fynd i ddyled neu ei chael yn anodd ymdopi oherwydd sgiliau ariannol gwael neu ddiffyg hyder wrth reoli cyllideb.
“Eisoes rydym wedi cael cannoedd o geisiadau. Mae rhai’n cynnig awgrymiadau ymarferol iawn, mae eraill â naws anarferol tu hwnt ac mae ambell un yn mynd i’r eithaf!” Mae’r ceisiadau a gyflwynwyd hyd yma’n cynnwys awgrymiadau ymarferol iawn i unigolion fel ‘penderfynwch faint o’ch incwm y gallwch ei wario a faint y byddwch yn ei gynilo bob mis – a chadwch at hynny’ a ‘nodwch gyfanswm cyfredol o’r holl bethau rydych chi’n eu prynu gyda cherdyn credyd rhwng cyfriflenni’r cerdyn er mwyn rheoli’ch gwariant’. Mae eraill yn cynnig atebion mwy eithafol fel ‘peidiwch â chael plant’!
Mae’n amlwg nad yw un ‘Tip Arian i Gymru’ yn meddwl bod y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus wedi mynd yn ddigon pell i leihau pwysau ariannol ar y GIG, ac mae’n galw am waharddiad llwyr ar ysmygu.
Dywedodd Berni Tyler i gloi: “Mae cystadleuaeth Tips Arian i Gymru’n cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr colegau roi eu pennau ynghyd a meddwl am awgrymiadau ariannol effeithiol y byddai’n dda i unigolion yn ogystal â’r gymuned colegau, pleidiau gwleidyddol a hyd yn oed llywodraethau gymryd sylw ohonynt.”
-----------------------------------Diwedd-------------------------------------
Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
1. ColegauCymru yw'r enw newydd ar fforwm. Elusen addysg cenedlaethol ydyw sy'n cynrychioli'r 21 coleg addysg bellach (AB) a’r dau sefydliad AB yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru ar colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk
2. Mae ‘wythnosau’ Sgiliau Ariannol Barclays wedi cael eu cynllunio i roi ymwybyddiaeth i fyfyrwyr o faterion ariannol personol ac i roi offer iddynt i reoli eu cyllideb. Gyda chymorth gan GolegauCymru ac eraill, mae Barclays mewn partneriaeth â’r Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ariannol wedi gweithio i ddarparu’r wythnos dysgu mewn 150 o golegau ledled Prydain. www.barclaysmoneyskills.com
3. Y colegau yng Nghymru sy’n cymryd rhan y gystadleuaeth Tips Arian yw:
- Coleg y Barri
- Coleg Ceredigion
- Coleg Glan Hafren
- Coleg Llandrillo Cymru
- Coleg Powys
- Coleg Sir Gâr
- Coleg Glannau Dyfrdwy
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Coleg Merthyr Tudful
- Coleg Castell Nedd Port Talbot
- Coleg Sir Benfro
- Coleg Catholig Dewi Sant
- Coleg Iâl
- Coleg Ystrad Mynach
4. Caiff enwau buddugwyr y gystadleuaeth eu cyhoeddi ar 9 Mai mewn digwyddiad yng Nghaerdydd a drefnir gan yr Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ariannol.
5. Dylid danfon y cynigion at Berni.tyler@colegaucymru.ac.uk erbyn dydd Gwener 15 Ebrill 2011.
6. Caiff tips diddorol eu cyhoeddi ar www.twitter.com/CollegesWales a chan ddefnyddio’r hashtag #moneytipsWales.