Ym Mawrth 2011 clywodd ColegauCymru ei fod wedi llwyddo yn ei gais cyntaf erioed i Raglen Dysgu Gydol Oes y Comisiwn Ewropeaidd: Leonardo. Prif nod y prosiect yw i hwyluso prentisiaid o Gymru gael lleoliadau gwaith yn Ewrop.
Dyma'r tro cyntaf i GolegauCymru geisio am brosiect Ewropeaidd o'r fath. Yn ol y rheolau ar gyfer mudiadau sy'n ennill cais am y tro cyntaf, mae cyfyngiadau ar y nifer o brentisiaid mae hawl ganddo i'w cefnogi. Mae ColegauCymru yn bwriadu ceisio eto am arian Ewropeaidd ac mae wrthi ar hyn o bryd yn datblygu partneriaethau gyda rhanbarthau a gwledydd eraill yn Ewrop er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i brentisiaid.
Mae ColegauCymru hefyd yn cefnogi myfyrwyr o Ewrop gael lleoliadau gwaith yng Nghymru.
Yn ystod y prosiect eleni, mae ColegauCymru yn gweithio gyda thair rhanbarth o Sbaen (Catalonia, Ibiza a Gwlad y Basg) a chyda Tuscany yn yr Eidal, a chyda'r wyth coleg canlynol yng Nghymru:
- Coleg Morgannwg
- Coleg Iâl Wrecsam
- Coleg Castell Nedd Port Talbot
- Coleg Gwent
- Coleg Glannau Dyfrdwy
- Coleg Llandrillo
- Cleg Gŵyr Abertawe
- Coleg Ystrad Mynach
Mae'r prentisiaid yn gweithio yn y meysydd galwedigaethol canlynol:
- peirianneg
- arlwyo
- adeiladwaith
- y gwasanaeth trosedd ieuenctid
- gwasanaeth cwsmer