Gwasanaethau ColegauCymru i'w aelodau

  • trefnu cyfarfodydd rheolaidd ar gyfer penaethiaid pob un o'r 20 coleg/sefydliad AB yng Nghymru
  • rheoli ystod o brosiectau ar ran colegau gan gynnwys: Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC); Gallu Ariannol; Cyfnewid Addysg a Hyfforddiant Galwedaethol (VET)
  • yn gartref i'r Consortiwm Pwrcasu Addysg Bellach Cymru (CPABC) sy'n darparu gwasanaethau pwrcasu proffesiynol i golegau  
  • darparu cyrsiau a seminarau datblygu proffesiynol ar reolaeth ac arweinyddiaeth ar gyfer staff uwch y colegau 
  • rheoli fforymau polisi, gan gynnwys y Grŵp Gwella Ansawdd a Lleihau Biwrocratiaeth (IQRBG) a'r Grŵp Cwricwlwm, Ansawdd a Pherfformiad
  • gweithio i ddatblygu ymhellach ymarferion a pholisiau iaith Gymraeg
  • hyrwyddo anghenion colegau a'u dysgwyr i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol, drwy ddefnyddio cyhoeddiadau, datganiadau i'r cyfryngau, ymatebion i ymgynghoriadau, cyfarfodydd a digwyddiadau
  • cynnal trafodaethau cyflogau mewn AB gydag Undebau Llafur
  • trefnu seminarau a chynadleddau ar gyfer ystod o reolwyr/staff a llywodraethwyr colegau yn ogystal a chynhadledd flynyddol sy'n denu cynulleidfa ehangach
  • cydlynu ystod eang o rwydweithiau er mwyn lledaenu datlbygiadau newydd, rhannu arfer dda, ac adnabod materion allweddol sydd arnynt angen ymateb polisi. Cynhelir rhwydweithiau ar gyfer y meysydd cwricwlwm canlynol:
    • Rheolwyr Cwricwlwm 14-19
    • Astudiaethau Busnes
    • Celf, Dylunio a'r Cyfryngau
    • Adeiladwaith
    • Peirianneg
    • Addysg Gyffredinol
    • Trin Gwallt a Harddwch
    • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Lletygarwch ac Arlwyo
    • Astudiaethau Seiliedig ar y Tir
    • Chwaraeon, Hamdden ac Addysg Awyr Agored

Yn ogystal, cynhelir rhwydweithiau ar gyfer rheolwyr a staff uwch y colegau fel a ganlyn:

    • Datblygu Busnes
    • Clercod
    • Hyrwyddwyr Mentergarwch
    • Ystadau
    • Rheolwyr Ewropeaidd
    • Swyddogion Arholiadau
    • Cyfarwyddwyr Cyllid
    • Iechyd a Diogelwch
    • Hyrwyddwyr Technoleg Dysgu a Gwybodaeth
    • Hyfforddiant Gychwynnol Athrawon
    • Rheolwyr Rhyngwladol 
    • Rheolwyr Sustemau Technoleg Gwybodaeth
    • Rheolwyr Canolfannau Adnoddau Dysgu
    • Marchnata 
    • Sustemau Rheoli Gwybodaeth 
    • Ymetsyn Allan 
    • Adnoddau Dynol 
    • Dysgwyr ac Anawsterau a/neu Anableddau Dysgu a'r Rhwydwaith Cefnogi Dysgu
    • Grwp Cwricwlwm y De Ddwyrain
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
    • Hyrwyddwyr/Cydlynwyr Cyfrwng Cymraeg
    • Dysgu yn y Gweithle
ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500