19 Gorffennaf 2010

Colegau yn Lansio Strategaeth ar Ddwyieithrwydd Mewn Addysg Bellach

Cafodd strategaeth sydd a'r nod o gynnig gwell cyfleoedd i ddysgwyr ôl-14 sy'n medru'r Gymraeg ei lansio gan GolegauCymru yn y Sioe Frenhinol ar 19 Gorffennaf yng nghwmni Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Dros y blynyddoedd mae colegau wedi datblygu a darparu mwy o opsiynau dysgu ar gyfer dysgwyr sy'n medru'r Gymraeg ac mae yna bartneriaethau cryf rhwng nifer of golegau ac ysgolion sy'n darparu'n dda ar gyfer eu dysgwyr. Ond mae colegau yn adnabod bod darpariaeth wedi bod yn ddarniog a bod angen gweledigaeth, cynllunio a chydlynu mwy strategol.

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: "Dwi’n llongyfarch ColegauCymru a’i aelod golegau am gerdded y llwybr hon. Maent wedi cael pob cefnogaeth oddi wrth Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth iddynt ddatblygu'r strategaeth bwysig a heriol hon, ond gwir yw dweud mai'r colegau sydd wedi bwrw ymlaen gyda'r fenter. Maen nhw wedi cymryd camau briesion ymlaen a dwi'n falch iawn medru bod yma i ddathlu lansiad y strategaeth. Dwi’n dymuno’n dda i’r colegau wrth fynd ati i roi'r strategaeth ar waith."

Dywedodd Bryn Davies, Cadeirydd ColegauCyrmu: "Mae'r Strategaeth ar Ddwyieithrwydd mewn Addysg Bellach yn flaenoriaeth i GolegauCymru. Drwy'r strategaeth, fe fydd colegau yn gwneud cyfraniad sylweddol i weithredu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae colegau yn bwriadu darparu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr fedru datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg yn ogystal a darparu mwy o gyfleoedd i astudio opsiynau galwedigaethol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae adnoddau yn brin: mae yna brinder arian cyhoeddus a staff arbenigol sy'n medru darparu dysgu galwedigaethol trwy gyfrwng y Gymraeg fel ei gilydd. Mae'n rhaid, felly, mai cydweithrediad nid cystadleuaeth yw'r ffordd ymlaen. Wrth roi'r strategaeth ar waith rydyn ni'n barod wedi dechrau gweithio gyda'n partneriaid allweddol: Llywodraeth y Cynulliad, ysgolion, Cynghorau Sgiliau Sector, cyrff dyfarnu a sefydliadau addysg uwch."

--------------------------------------Diwedd-------------------------------------

Cyswllt: Sylvia Davies, rhif ffôn 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i’r golygydd:

1. ColegauCymru yw'r corff cenedlaethol sy'n cynrychioli y 21 o golegau addysg bellach (AB) a'r ddau sefydliad AB yng Nghymru. Cafodd ei adnabod fel "fforwm" tan ei ail-enwi yn 2009. is the new name for fforwm. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a’r colegau y mae yn ei gynrychioli, ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar Ddwyiethrwydd mewn Addysg Bellach ar gael o: Strategaeth Genedlaethol ar Ddwyieithrwydd mewn AB 

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500