28/03/2011

Maniffesto ar Gyfer Dysgwyr

Galluogi dysgwyr i lwyddo a’r economi i ffynnu yw’r prif ddeilliannau y dymuna ColegauCymru eu gweld wrth lansio maniffesto ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae maniffesto ColegauCymru yn galw ar ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad i gefnogi:

  • mwy o gyfleoedd dysgu
  • canolbwyntio ar wella sgiliau sylfaenol
  • hybu llwybrau galwedigaethol mewn modd cadarnhaol 
  • continwwm dysgu gyda mwy o hyblygrwydd drwodd i lefelau uwch
  • gweinyddu effeithiol ac effeithlon
  • strwythyr proffesiynol i’r gweithlu addysg bellach.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: “Mae addysg a hyfforddiant yn borth i gyflogaeth a mwy o hunan-barch. Ond mae gormod o unigolion yn cael eu rhwystro rhag cyrraedd eu nod. Mae economi Cymru’n dioddef ac mae dysgwyr yn wynebu heriau oherwydd:

  • mae’r galw am ddysgu’n uwch nag y mae’r cyllid yn caniatáu ar ei gyfer
  • mae diffyg sgiliau sylfaenol yn atal nifer o ddysgwyr rhag cyflawni
  • o hyd mae gormod o bobl yn cael trafferth i wneud yn dda ar lefel TGAU (Lefel 2)
  • mae pwysau parhaol i roi mwy o werth i gymwysterau academaidd na phob math arall o gymhwyster yn difetha symbyliad llawer o bobl ac yn arwain at dangyflawniad
  • mae angen mwy o gyfleoedd i astudio’n lleol ac yn rhan-amser ar lefelau uwch (Lefel 4+) a rhaid i bob sefydliad addysg ymrwymo i bartneru er lles dysgwyr
  • mae gormod o arian cyhoeddus yn canolbwyntio ar reoleiddio diangen.

Gorffennodd Dr Graystone: “Mae maniffesto ColegauCymru ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn cynnig ffyrdd o waredu rhwystrau’r sustem, galluogi unigolion i lwyddo a’r economi i ffynnu o fewn cyfnod ariannol heriol. Dwi’n mawr obeithio y bydd ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad yn cofleidio’r atebion a gynigir yn maniffesto ColegauCymru ac yn ymweld â’u colegau lleol i gyfarfod a staff a myfyrwyr.”
-------------------------------------Diwedd--------------------------------------

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. ColegauCymru yw'r enw newydd ar fforwm. Elusen addysg cenedlaethol ydyw sy'n cynrychioli'r 21 coleg addysg bellach (AB) a’r dau sefydliad AB yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru ar colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk
2. Mae etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymryd lle ar 5 Mai 2011.
3. Cliciwch i ddarllen y maniffesto: Maniffesto ar Gyfer Dysgwyr: etholiadau'r Cynulliad 2011 

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500