25 Mehefin 2012
Menter: Myfyrwyr Cymru yn Arwain y Byd
Mae myfyrwyr colegau Cymru yn arwain y DU a gweddill y byd ar y busnes of fentergarwch.
Roedd buddugoliaeth Cymru yn rownd derfynol y gystadleuaeth Her Menter Fyd-eang 2012 yn Japan yr wythnos diwethaf yn rhagflaeni'r cyhoeddiad heddiw gan y Carnegie UK Trust o'i arolwg: Enterprising Minds, o fyfyrwyr 16-21 oed yn y DU, sy'n nodi mai myfyrwyr Cymru sydd mwyaf eu bryd ar fenter yn y DU.
Mae pedwar o golegau addysg bellach Cymru yn gweithio gyda'r Carnegie UK Trust: Coleg Penybont, Coleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Sir Benfro, a Choleg Caerdydd a'r Fro. Roedd yr arolwg Enterprising Minds yn cynnwys 17 o golegau a 1,602 myfyrwyr o wledydd y DU.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: "Mae colegau AB yng Nghymru yn gweithio'n agos iawn gyda busnesau i baratoi myfyrwyr ar gyfer y farchnad gystadleuol fyd-eang, lle mae sgiliau ac agwedd at fenter yn allweddol i achub y blaen. Rwyf wrth fy modd bod myfyrwyr AB Cymru yn cael eu graddio uchaf yn y DU ar y 'Mesur Carnegie o Briodoleddau Myfyrwyr i Fenter', a'u bod wedi creu argraff y Carnegie UK Trust gyda'u brwdfrydedd am eu profiadau coleg, gan gydnabod ansawdd uchel eu haddysg.
"Mae gan nifer o golegau yng Nghymru eu cwmnïau arfer eu hunain ac maent yn cymryd rhan lawn yn yr Her Menter Fyd-eang.
"Mae'n newyddion gwych bod Coleg Menai wedi ennill trydydd i Gymru yn Her Menter Fyd-eang eleni, a gynhaliwyd yn Japan yr wythnos diwethaf. Mae hwn yn gyflawniad rhagorol. Newyddion gwell fyth yw nad cyflawniad unigryw ydoedd i Gymru. Roedd llwyddiant Coleg Menai yn dilyn yn ôl troed Coleg Morgannwg, a enillodd cyntaf i Gymru yn rownd derfynol yr Her Menter Fyd-Eang yn 2010."
Yn ogystal, mae Coleg Caerdydd a'r Fro newydd gyhoeddi ei fod yn ymuno â'r Grŵp Gazelle sy'n canolbwyntio ar dyfu clwstwr o Golegau Entrepreneuraidd yn y DU sy'n ymrwymo i drawsnewid y cwricwla i annog meddylfryd entrepreneuraidd yn eu myfyrwyr.
Casgliad Dr Graystone: "Mae colegau addysg bellach Cymru a'u myfyrwyr yn gweithio'n hyblyg, yn entrepreneuraidd, ac yn chwilio'n barhaus am y sialens nesaf.Mae'r rhain i gyd yn nodweddion hanfodol i lwyddo mewn economi fyd-eang ansicr."
--------------------------------------- Diwedd ---------------------------------------
Cysylltwch â: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771,913.
Nodiadau i olygyddion
1. Mae ColegauCymru yn elusen addysgol cenedlaethol sy'n cynrychioli yr 19 coleg a sefydliad addysg bellach yng Nghymru. Ei genhadaeth yw codi proffil addysg bellach gyda'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru.Am ragor o wybodaeth am ColegauCymru a'r colegau mae'n eu cynrychioli, ewch at www.colegaucymru.ac.uk neu www.collegeswales.ac.uk
2. Gwybodaeth am y Tîm Her Menter Fyd-eang o Goleg Menai: http://t.co/HVm8FgcJ
3. Bu i astudiaeth y Carnegie UK Trust astudiaeth gynnwys 17 o golegau a 1,602 o fyfyrwyr o wledydd y DU.Lansiwyd yr adroddiad Ddydd Llun 25 Mehefin yn Nhŷ'r Cyffredin.Mae'r adroddiad ar gael oddi wrth http://www.carnegieuktrust.org.uk/changing-minds/enterprise-and-society/enterprising-minds