16 Awst 2012

Canlyniadau Lefel A Ardderchog yng Ngholegau Cymru 

Mae’r gyfradd pasio Safon Uwch, yn ogystal â’r gyfradd pasio A*-C uwch, mewn cyfres o golegau addysg bellach yng Nghymru ymhell uwchlaw cyfartaledd y DU. Mae llawer o fyfyrwyr bellach yn bwrw am Rydgrawnt (Oxbridge), prifysgolion Russell Group a sefydliadau mawreddog eraill sy’n cynnwys RADA ac ysgol fusnes fyd-eang o’r radd flaenaf.

O blith y colegau sydd wedi perfformio’n well na chyfartaledd y DU yn y graddau A*-C mwy heriol yw Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Sir Gâr a Champws Crosskeys Coleg Gwent, gyda Choleg Castell-nedd Port Talbot yn adrodd bod 82.6% teilwng iawn o’i ymgeiswyr wedi cyflawni A*-C. Yn aruthrol, mae dim llai na 58% o ymgeiswyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cael o leiaf gradd B wedi’i ddyfarnu iddynt, sydd ymhell uwchlaw cyfartaledd Cymru o 49.9% yn ogystal â chyfartaledd y DU.

Mae Rhaglen Anrhydeddau Coleg Catholig Dewi Sant am ei fyfyrwyr dawnus a thalentog yn adrodd canlyniadau rhyfeddol: enillodd 81% o fyfyrwyr radd A* neu A, gyda 100% yn ennill gradd A*-B yn Safon A2. Ar draws y coleg cyfan, saif y radd A*-A ar 40% gan drechu cyfartaledd y DU o 26.6% o bell ffordd. Bydd chwech o’i fyfyrwyr yn mynd i Rydgrawnt. 

Yn y cyfamser, mae Coleg Iâl Wrecsam yn gweld pedwar o’i fyfyrwyr Safon Uwch yn gadael am Rydgrawnt gan gynnwys yr efeilliaid penigamp Michael a William Antony a lwyddodd i gael 7 gradd A* a 2 radd A rhyngddynt. Mae Michael yn mynd i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caergrawnt a bydd William yn mynd â’i 4 gradd A* i Gaergrawnt i astudio’r Gyfraith. Pen taith Tom Challoner yw Bioleg ym Mhrifysgol Rhydychen, wedi iddo gael 3 gradd A* ac un radd A gwych yn ogystal â Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru.

Bydd Rebecca Baker (peirianneg) o Goleg Castell-nedd Port Talbot, a thri myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe: y fyfyrwraig A serennog Aimee Hesketh (meddygaeth filfeddygol), Leah Dudley (y gyfraith) a’r myfyriwr celf Dominic Thomas yn ymuno â nhw yn Rhydgrawnt.

Mae Chelsea Bond o Goleg Castell-nedd Port Talbot yn ymdrechu am gymhwyster galwedigaethol o’r radd flaenaf. Mae hi’n mynd â’i chanlyniadau A*-A mewn pedair Safon Uwch i Ysgol Fusnes Henley - a gaiff ei hystyried ymhlith yr 1%  gorau yn y byd. Bydd hi’n astudio am radd Cyfrifeg a Busnes, a ddyluniwyd mewn partneriaeth â PWC ac ICAEW. Mae’n cynnwys lleoliadau gwaith â thâl yn PWC ac yn cynnig cyflogaeth gyda chyflog cychwynnol premiwm i raddedigion llwyddiannus a llwybr carlam i statws cyfrifydd siartredig llawn.

Bydd llu o fyfyrwyr coleg yn dilyn cyfeiriad galwedigaethol Chelsea, ac maen nhw ar eu ffordd i astudio’r gyfraith a phynciau cysylltiedig â meddygaeth yn y prifysgolion gorau. Mae cyfreithwyr y dyfodol yn cynnwys Lauren Probert o Goleg Sir Benfro, Sarah Sardar o Goleg Gŵyr Abertawe, Samuel Carr o Goleg Glannau Dyfrdwy, Marybeth Thornhill o Goleg Castell-nedd Port Talbot, a Beca Llewelyn Roberts o Goleg Menai sydd wedi cael ysgoloriaeth yn ogystal.  Meddygaeth yw dewis Daniel Mauro o Goleg Sir Gâr, mae Luke Nixon sydd â nam ar ei glyw o Goleg Iâl yn mynd i Brifysgol Caerdydd, ac mae ei gyd-fyfyrwraig yn Iâl, Sioned Williams, yn mynd i King’s College yn Llundain; wrth i Kate Morris o Goleg Menai ddewis gwyddor milfeddygaeth fiolegol.

Ar y llaw arall, nid yw Rosie Sheehy o Goleg Gŵyr Abertawe yn mynd ar drywydd gyrfa mewn gwyddoniaeth er gwaetha’r ffaith iddi gael A*-A mewn bioleg, cemeg a mathemateg. Y rheswm am hynny yw ei bod hi hefyd wedi cael A* mewn drama ac astudiaethau theatr, sydd wedi rhoi’r rhyddid iddi ddilyn ei hangerdd yn RADA. Bydd Joe Roberts o Goleg Iâl yn ymuno â hi yno.

Mae ieithoedd wedi esgor ar lwyddiannau mawr eleni. Cyflawnodd 100% o ymgeiswyr Ffrangeg a Rwsieg A*-C yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Cyflawnodd 50% o’r ymgeiswyr Cymraeg ail iaith A*-A yng Ngholeg Sir Gâr, gan ragori ar gyfartaledd Cymru o 16% gan swm hynod o fawr. Gyda’i chanlyniadau gwych mewn Cymraeg, Ffrangeg a Hanes mae Nicola Brown o Goleg Iâl yn paratoi i ddechrau gradd mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Coleg Prifysgol Llundain yw pen taith Isabella Abdou, lle mae’n mynd â’i graddau A*-A o Goleg Gŵyr Abertawe i astudio gradd mewn Sbaeneg a Rwsieg. A bydd Alice Parson ac Emily Kate Morgan o Goleg Castell-nedd Port Talbot a gafodd graddau A i gyd yn dilyn gradd mewn Ffrangeg.

Nid dim ond y myfyrwyr safon uwch amser llawn 16-18 oed traddodiadol sy’n cael eu cefnogi i lwyddiant personol gwych gan y colegau. Ceir myfyrwyr aeddfed, myfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ail gyfle hefyd. Er enghraifft, mae llwyddiannau gwyddoniaeth Coleg Caerdydd a’r Fro eleni’n cynnwys:

  • Yannik Herbert, a adawodd yr ysgol yn 14 oed heb unrhyw gymwysterau TGAU ond a ddarganfyddodd coleg yn hapus ac sydd bellach wedi ennill graddau A* mewn Llenyddiaeth Saesneg, Mathemateg a Ffiseg yn 20 oed ac yn mynd i Brifysgol Caergrawnt. 
  • Seongju Lee, a gyrhaeddodd o Korea yn 2009 heb fawr o Saesneg ac o ganlyniad ni wnaeth yn dda iawn yn yr ysgol. Ond mewn prin dwy flynedd yn y coleg, mae wedi pasio’i arholiadau TGAU, UG mewn mathemateg a heddiw yn 18 oed o hyd, mae wedi cael graddau A mewn Mathemateg a Ffiseg Safon Uwch.
  • Miles Capper, sydd wedi bod trwy amser caled, gan gynnwys carchar yn 17 oed, ond sydd wedi troi ei fywyd ar ei ben ei waered gyda chefnogaeth y coleg a heddiw mae’n ceisio penderfynu ble i astudio BSc Cemeg ar ôl cael cynigion cystadleuol gan y prifysgolion gorau.

Mae’r colegau’n falch o sicrhau cefnogaeth gref i’r ystod gyfan o ymgeiswyr Safon Uwch. Mae colegau Cymru o Fôn i Fynwy’n adrodd cyfraddau pasio uwch na chyfartaledd y DU, yn eu plith: Coleg Sir Gâr, Coleg Sir Benfro, Coleg Iâl Wrecsam, Coleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Gwent Crosskeys a Choleg Castell-nedd Port Talbot. Cafodd mwyafrif y pynciau Safon Uwch yn y colegau hyn gyfradd llwyddiant o 100%. Ac ni ellid gwella ar gyfradd llwyddiant Safon Uwch Coleg Menai – gyda chyfradd llwyddo o 100% drwy’r coleg.

Dywedodd John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru / CollegesWales: “Mae’n foment eithriadol o falch i adrodd fod cyfradd pasio Safon Uwch cynifer o golegau Cymru’n fwy na chyfartaledd y DU mewn A*-E yn ogystal â’r graddau A*-C uwch. Ychydig golegau sy’n ddarparwyr arbennig o fawr mewn Safon Uwch, sy’n rhoi arwyddocâd cenedlaethol i’r canlyniadau rhagorol hyn. Roedd 1,687 o ymgeiswyr Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, 1,086 yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot, dros 900 yng Ngholeg Gwent ac oddeutu 900 yng Ngrŵp Llandrillo Menai hefyd.

“Mae’r colegau trydyddol mwy wedi dangos bod eu myfyrwyr hynod dalentog yn cyflawni gyda’r goreuon. Cyflawnodd 23 myfyriwr o Goleg Iâl Wrecsam a 21 myfyriwr o Goleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Gwent dair gradd A o leiaf.

“Mae’n bleser mawr gennyf longyfarch y myfyrwyr uchaf eu perfformiad sy’n mynd i’r prifysgolion mwyaf mawreddog. Rwy’n hynod falch o’r myfyrwyr hynny sydd wedi cyflawni y tu hwnt i’w breuddwydion. Mae llawer a adawodd yr ysgol gyda chanlyniadau gwael neu gyffredin wedi gwella’u bywydau trwy ymrestru mewn coleg, gweithio’n galed ac ennill canlyniadau Safon Uwch cryf a lleoedd mewn prifysgolion.

“Llongyfarchiadau diffuant i’r myfyrwyr, eu hathrawon a staff y colegau ledled Cymru sydd wedi’u cefnogi nhw ar eu ffordd i lwyddiant mewn Safon Uwch.” 

-----------------------------------Diwedd-----------------------------------

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy’n cynrychioli pob un o'r 19 coleg a sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw codi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth am ColegauCymru a'r colegau mae'n eu cynrychioli, ewch at www.colegaucymru.ac.uk 

2. Cysylltiadau'r wasg am y colegau a enwir yn y datganiad hwn:
• Coleg Gwent: Kim Spurr T: 01495 333507 M: 0772 0380545
• Coleg Castell Nedd Port Talbot: Fay Harris T: 01639 648006
• Coleg Sir Gâr: Mandy Wyrwoll T: 01554 748533
• Coleg Gŵyr Abertawe: Allison Lowe T: 01792 284262
• Coleg Caerdydd a'r Fro: Christopher BakerT: 01446 725015
• Coleg Glannau Dyfrdwy: Vicky Barwis T: 01244 834531
• Coleg Sir Benfro: Geoff Elliott T: 01437 753100
• Coleg Catholig Dewi Sant: Alwyn Lloyd  neu Holly Bryant T: 029 20498 555
• Coleg Iâl: Angela Witter T: 01978 317321 ext 2033
• Grŵp Llandrillo Menai: Jane Cater T: 01492 546666, neu Sarah Wynn at Coleg Menai (rhan o Grŵp Llandrillo Menai T: 01248 370125 ext 3548)

 

 

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500