25 Hydref 2011

Wales-Chongqing launch with First Minister

Cysylltu Colegau Cymru a Tsieina

Mae colegau addysg bellach Cymru yn ehangu eu cysylltiadau â Tsieina drwy fenter newydd a lansiwyd heddiw (dydd Mawrth 25 Hydref) gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, sydd ar ymweliad â’r wlad.

Mae Consortiwm Cymru-Chongqing yn dod â cholegau Cymru at ei gilydd i ddatblygu partneriaethau gyda busnesau a sefydliadau yn Chongqing. Mae hynny’n cynnwys ysgolion technegol a galwedigaethol.

Bydd y Consortiwm yn hyrwyddo’r broses o recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ac yn ei datblygu a bydd hefyd yn datblygu cyrsiau galwedigaethol arbenigol.  Yn ogystal â hynny, bydd yn datblygu sgiliau a chyrsiau hyfforddi ar gyfer cwmnïau o Tsieina.

Caiff y Consortiwm ei reoli gan Golegau Cymru, y sefydliad sy’n cynrychioli holl golegau addysg bellach (AB) Cymru ynghyd â’r ddau sefydliad AB.  Mae’r Consortiwm wedi penodi aelod o staff sy’n gweithio’n amser llawn yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Chongqing i ddatblygu’r cydweithrediad.

Mae Colegau Cymru eisoes yn weithgar iawn yn Tsieina.  Mae Coleg Llandrillo wedi hyfforddi athrawon lletygarwch yng Ngholeg Addysg Chongqing, mae Coleg Gŵyr, Abertawe ar fin cwblhau cyrsiau hyfforddiant iechyd a diogelwch ar gyfer rheolwyr pyllau mwyngloddio yn Sefydliad Galwedigaethol Peirianneg Chongqing, ac yn gynharach eleni, yn Chongqing, cynhaliwyd cyfnewidfa sgiliau gyntaf Cymru-Chongqing lle cafodd myfyrwyr a staff o Gymru a Tsieina gyfle i ddangos eu doniau.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Drwy Gonsortiwm Cymru-Chongqing bydd modd i’r colegau hynny o Gymru sy’n aelodau ohono ehangu eu gwaith gydag ysgolion technegol a galwedigaethol Chongqing. Byddan nhw’n rhannu arbenigedd a phrofiad gyda’u cyfeillion yn Tsieina ac yn rhoi cyngor iddyn nhw.

“Bydd yr aelod o staff a benodwyd i gynrychioli’r Consortiwm yn Chongqing yn rhoi hwb ychwanegol i bartneriaethau a chyfeillgarwch sydd eisoes yn bod rhwng colegau Cymru ac yma yn Tsieina.  Dymunaf bob llwyddiant i’r Consortiwm yn y dyfodol.”

Yn ôl Bryn Davies, Cadeirydd y Consortiwm: “Nodau Consortiwm Addysg Bellach Cymru-Chongqing yw defnyddio arbenigedd colegau Cymru i helpu Chongqing yn ei rhaglen uchelgeisiol o ehangu’n economaidd ac yn gymdeithasol.  I wneud hynny byddan nhw’n rhoi hyfforddiant perthnasol, yn paratoi cyrsiau pwrpasol ac yn rhoi cymorth ymgynghorol.

“Mae budd hefyd i ddysgwyr Cymru.  Mae gan Gymru a Chongqing lawer i’w ddysgu oddi wrth ei gilydd.  Sylw pennaf Chongqing yw gwella sgiliau ei gweithlu gan gynnwys ei phoblogaeth fudol sy’n cynyddu o hyd. Sylw pennaf Cymru yw annog ei dysgwyr i feddwl yn rhyngwladol, gan ehangu eu gorwelion a chan wella’u cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru yn ogystal â’r farchnad fyd-eang.  Dyma gyfle cyffrous iawn i addysg bellach a dysgwyr Cymru.”
------------------------------Diwedd-----------------------------------

Cyswllt y cyfryngau: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau:

1. Mae ColegauCymru yn cynrychioli pob un o golegau addysg bellach Cymru.  Mae'n elusen addysgiadol ac yn gwmni wedi ei gyfyngu trwy warant.
2. Mae CollegesWales (UK) International yn ran o GolegauCymru. Ei bwrpas yw i weithio gyda gwledydd eraill er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i ddysgwyr, i ehangu eu gorwelion ac i godi eu dyheadau.
3.Yn 2011, bu i 11 o golegau addysg bellach Cymru ffurfio Consortiwm Addysg Bellach Cymru-Chongqing sy'n rhan o CollegesWales (UK) International.
4. Y sefydliadau addysg bellach sy'n ffurfio'r consortiwm yw: 

  • Coleg Penybont
  • Coleg Caerdydd a'r Fro
  • Coleg Gwent 
  • Coleg Llandrillo Cymru
  • Coleg Harlech WEA (N) and WEA (S) 
  • Coleg Morgannwg   
  • Coleg Powys
  • Coleg Glannau Dyfrdwy
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Coleg Iâl Wrecsam
  • Coleg Ystrad Mynach

5. Mae'r Consortiwm yn cyflogi Swyddog Prosiect, Grace Tan, sydd wedi ei lleoli yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Chonging: Wales Government Office, Room 2808, Metropolitan Tower, Zourong Road, Central District, Chongqing 400010, P.R. China.

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500