14 Ebrill 2011
Rhagoriaeth y Dyfodol: yr elfen hanfodol i golegau
Ni allai “Rhagoriaeth y Dyfodol”, cynhadledd flynyddol ColegauCymru ar 26 Mai yng Nghaerdydd, fod yn fwy amserol. Bydd prinder sgiliau, uno colegau, WorldSkills London 2011, dau adroddiad annibynnol ar addysg bellach yng Nghymru, a Chynulliad newydd gyda phwerau mwy yn gefndir i areithiau heriol a gweithdai fydd yn ennyn diddordeb.
Bydd prif siaradwyr y gynhadledd yn cynnwys:
- Y Gweinidog dros Addysg yn Llywodraeth newydd Cynulliad Cymru; disgwylir iddo nodi gweledigaeth am addysg a hyfforddiant ar gyfer tymor y Cynulliad newydd
- Huw Jones, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru; mae angen gweithredu ar fyrder ar ei adroddiadau ar anghenion busnesau o ran sgiliau, gan gynnwys sgiliau Cymraeg
- Marion Plant OBE, Pennaeth North Warwickshire and Hinckley College; mae ei choleg wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth fentora dysgwyr trwodd i gystadlaethau sgiliau rhyngwladol gan gynnwys WorldSkills
- Andrew Goodall, prif weithredwr Bwrdd GIG Aneurin Bevan, sydd wedi mynd trwy gyfnod o ailstrwythuro mawr gyda gwersi pwysig i’r sector colegau.
Dywedodd Dr John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru: “Rwyf wrth fy modd gyda safon a statws y prif siaradwyr yng nghynhadledd ‘Rhagoriaeth y Dyfodol’. Mae colegau wedi ymrwymo i godi safonau’n barhaus ac i ymchwilio i ffyrdd newydd o fod yn fwy ymatebol i’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cydnabod bod colegau wedi rheoli cyfres o gyllidebau heriol a galwadau i weddnewid y sector addysg a hyfforddiant ôl-16 mewn modd effeithiol iawn.
“Hyd yn hyn, popeth yn iawn. Ond nid yw’n dod i ben yma. Mae adroddiadau annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi galw am hyd yn oed mwy o uno colegau, mwy fyth o gydweithrediadau gydag amrywiaeth fawr o bartneriaid, a model newydd o lywodraethu colegau.
“Er mwyn eu dysgwyr a’u cymunedau lleol yn ogystal â’r economi ehangach, mae ‘rhagoriaeth y dyfodol’ yn elfen hanfodol i golegau. Mae’n rhaid i golegau gynllunio ar gyfer newid strwythurol mawr a chyflenwi sgiliau o ansawdd da sy’n gwneud pobl yn barod am swyddi mewn economi sy’n symud yn gyflym, a hynny i gannoedd ar filoedd o ddysgwyr o bob oed o 14 mlwydd i fyny ac ar bob lefel, o lythrennedd sylfaenol i raddau a chymwysterau proffesiynol.”
Dywedodd Dr Graystone i gloi: “Rwy’n sicr y bydd siaradwyr y gynhadledd, ar y llwyfan ac yn y gweithdai, yn herio ac yn ysbrydoli. Disgwylir i’r trafodaethau a fydd yn dechrau yn y gynhadledd arwain at newidiadau gwirioneddol mewn colegau ac yn y cyrff sy’n bartneriaid iddynt.”
-----------------------------------Diwedd-----------------------------------
Cysylltwch â: Sylvia Davies ar 029 2052 2500.
Nodiadau i olygyddion:
1. Enw blaenorol ColegauCymru oedd fforwm. Elusen addysgol genedlaethol ydyw sy’n cynrychioli pob un o’r 21 o golegau a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Ei chenhadaeth yw codi proffil addysg bellach gyda gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. I gael mwy o wybodaeth am GolegauCymru a’r colegau mae’n eu cynrychioli, ewch i www.colegaucymru.ac.uk neu www.collegeswales.ac.uk
2. Cynhelir y gynhadledd ar 26 Mai 2011 yng Ngwesty Hilton, Caerdydd.
3. Mae rhaglen y gynhadledd a ffurflen gofrestru ar gael o: http://www.colegaucymru.ac.uk/cy-GB/cynhadledd_flynyddol_2011-33.aspx