1 Chwefror 2012
Rheoli Arian: sgil sydd ar ei ffordd i Gymry ifainc

Beth sydd gan y rhain yn gyffredin…swyddog undeb credyd, ymgynghorydd dyledion a budd-daliadau’r cyngor, gweithiwr cymorth i gyn-droseddwyr, swyddog addysg defnyddwyr safonau masnach, yn ogystal â darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac adrannau gwasanaethau dysgwyr y colegau? Mae pob un ohonynt yn hynod ymwybodol fod angen i lawer o bobl ifanc gael gwell sgiliau rheoli arian i’w helpu nhw trwy fywyd a’u galluogi i gyrraedd eu potensial. Yr ateb yn rhannol yw ‘Teach Others’.
Mae ColegauCymru bron hanner ffordd trwy ei nod o baratoi 100 o hyfforddwyr i ddatblygu sgiliau rheoli arian i filoedd o bobl 16-24 oed o bob math o gefndiroedd ledled Cymru.
Cwrs deuddydd yw ‘Teach Others’, a ariennir gan raglen Arian am Oes Grŵp Bancio Lloyds, sydd ar gael i ymarferwyr addysg bellach (AB), gweithwyr ieuenctid a chymunedol ledled y DU. Mae’n galluogi’r sawl nad ydynt yn athrawon cymwys – fel gweithwyr cymunedol neu weithwyr sy’n rhoi cyngor – i gynllunio a hwyluso sesiynau a gweithdai gallu ariannol. Mae ‘Teach Others’ yn rhan o raglen Arian am Oes ledled y DU, dan arweiniad ColegauCymru yng Nghymru, mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
Mae’r cwrs Teach Others yn cynnwys sesiynau ymarferol gyda ffocws uchel ar sgiliau addysgu, yn ogystal â gwybodaeth ac adnoddau diweddar sy’n berthnasol i ddatblygu sgiliau rheoli arian pobl ifanc.
Dywedodd Julia Owens, ColegauCymru, sef rheolwr Arian am Oes yng Nghymru: “Mae rhai o’r straeon personol a glywaf gan bobl ifanc ynghylch ble mae eu diffyg sgiliau rheoli arian wedi’u harwain yn peri gofid mawr. Mae miloedd o bobl ifanc ledled Cymru mewn gwir angen i wella’u sgiliau rheoli arian a theimlaf ei bod hi’n fraint i allu chwarae rhan fach wrth fynd i’r afael â mater mor ddifrifol.”
Dywedodd Cheryll Morgan o Goleg Castell-nedd Port Talbot: “Ar y ffordd i annibyniaeth, mae gan bobl ifanc freuddwydion crand ac maen nhw ar ras i brynu car a gwario’u harian ar wyliau gyda’u ffrindiau. Mae mor bwysig eu helpu nhw i ddatblygu eu sgiliau rheoli arian yn gynnar, cyn iddynt wario’r hyn na allant ei fforddio a difetha’u bywyd o ganlyniad.”
Dywedodd Helen Griffiths, Swyddog Cymorth Ariannol y Myfyrwyr yng Ngholeg Iâl, Wrecsam am y cwrs: “Roedd y cwrs Teach Others yn ymarferol ac yn rhyngweithiol iawn. Roedd hi’n sylfaen dda i’r staff nad ydynt yn addysgu. Rydw i wedi magu llawer o hyder trwy’r cwrs ac rwy’n edrych ymlaen at roi fy wybodaeth newydd ar waith gyda’r dysgwyr yn y coleg.”
-------------------------------------Diwedd----------------------------------
Cysylltwch â: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
1. Mae ColegauCymru / CollegesWales yn elusen addysgol genedlaethol sy’n cynrychioli pob un o’r 20 coleg a sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei fwriad yw codi proffil addysg bellach gyda gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol i wella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. I gael mwy o wybodaeth am GolegauCymru / CollegesWales a’r colegau mae’n eu cynrychioli, ewch i www.colegaucymru.ac.uk neu www.collegeswales.ac.uk
2. Mae Teach Others yn gwrs deuddydd achrededig ar reoli arian a ariennir gan Grŵp Bancio Lloyds fel rhan o’i Raglen Arian am Oes: sef rhaglen sgiliau gallu ariannol a sgiliau arian personol a ddyluniwyd i roi’r wybodaeth, y sgiliau, y hyder a’r cymhelliant i bobl reoli eu harian yn dda. Mae Arian am Oes yn ariannu 1,400 o gymwysterau gallu ariannol – Teach Me a Teach Others – sydd ar gael i ymarferwyr AB, gweithwyr ieuenctid a chymunedol ledled y DU.
3. Yng Nghymru, cyflwynir Arian am Oes gan ColegauCymru / CollegesWales mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
4. Er mwyn cadw lle ar gwrs Teach Others yng Nghymru, cysylltwch â Julia Owens, ColegauCymru ar Ffôn: 029 2052 2500, e-bost helo@colegaucymru.ac.uk neu dilynwch y dolenni cyswllt