24 Tachwedd 2011

Sbaeneg: Yn Allweddol i Raglen Waith Prentisiaid Peirianneg

Spain bound apprentices: Nov2011

Mae’r cyfle i gael lleoliad gwaith Ewropeaidd yn ysbrydoli prentisiaid peirianneg o Gymru i ehangu eu gorwelion. Y cam cyntaf: dysgu Sbaeneg.

Mae Sbaen yn cynnal lleoliadau gwaith pythefnos o hyd i brentisiaid o Gymru o dan raglen dan arweiniad CollegesWales International - sef cangen ryngwladol ColegauCymru / CollegesWales. Mae’r rhaglen a ariennir gan Ewrop yn gweithio gyda cholegau ledled Sbaen - yng Ngwlad y Basg, Catalonia ac Ynysoedd Baleares - i chwilio am leoliadau gwaith i hyd at 26 o brentisiaid o Gymru yn y gwanwyn 2012.

Mae’r rhaglen lleoliad gwaith hon yn uchelgeisiol ac yn heriol i’r dysgwyr. Mae tiwtoriaid y prentisiaid yn eu sefydlogi yn y wlad sy’n cynnal ac wedyn yn gadael y prentisiaid i fod yn gyfrifol am wneud swydd mewn cwmni yn Ewrop. Bydd rhaid iddynt addasu i ddiwylliant newydd, cyd-dynnu â chydweithwyr newydd a chyfathrebu mewn iaith anghyfarwydd am barhad eu harhosiad.

Heddiw, mae pum prentis peirianneg, sy’n astudio yng Ngholeg Morgannwg wedi cael amser gan eu cwmnïau  - FSG Tool and Die, RPC Containers ac Eries Magnetics, ynghyd â dau diwtor peirianneg o Goleg Castell-nedd Port Talbot - Michael Rees a Colin Thomas, i ddechrau paratoi ar gyfer y lleoliadau a fydd yn digwydd fis Mawrth nesaf trwy ddysgu Sbaeneg.

Dywedodd un o’r prentisiaid, Luke Parry sy’n 19 oed ac yn gweithio yn FSG Tool and Die: “Dewisais beidio ag astudio ieithoedd yn yr ysgol - roedd fy mryd i ar wyddoniaeth a thechnoleg. Ond mae hyn yn wahanol. Mae’n digwydd go iawn - rwy’n mynd i weithio yn Sbaen. Bydd angen imi ddeall fy swydd, fy nghydweithwyr ac wrth gwrs y pennaeth! A bydd angen imi gael trefn ar fy hun - prynu bwyd, defnyddio cludiant cyhoeddus. Popeth.

“Mae’n rhoi dysgu iaith mewn persbectif cwbl newydd. Mae gennyf gymhelliant uchel i ddysgu Sbaeneg nawr. Bydd rhaid imi weithio’n galed rhwng nawr a mis Mawrth i wasgu digon o Sbaeneg i’m hymennydd i allu gwneud y mwyaf o’r profiad hwn.

“Rwy’n edrych ymlaen hefyd at ychwanegu iaith dramor fodern at fy CV. Mae’n wych bod y cwrs iaith rwyf arno’n mynd i gael ei achredu felly bydd gennyf rywbeth ar bapur i ddangos amdano. A phrofiad gwaith mewn gwlad arall hefyd, rwy’n mawr obeithio y bydd hynny’n gymorth mewn sawl ffordd yn y dyfodol.”

Dywedodd Cydlynydd Rhyngwladol ColegauCymru / CollegesWales, Siân Holleran, y mae hi ei hun yn ieithydd: “Mae ColegauCymru’n gweithio’n galed i gynnig cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru ehangu eu gorwelion a dod o hyd i’w lle yn yr economi fyd-eang. Ni fu gwell amser erioed i fyfyrwyr coleg uchelgeisiol sydd â’u bryd ar lwybr gyrfa alwedigaethol i ychwanegu iaith dramor fodern at eu set o sgiliau galwedigaethol.

“Mewn partneriaeth â CILT Cymru, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd, mae ColegauCymru wedi trefnu hyfforddiant iaith dwys i’r prentisiaid, a achredir gan CBAC. Cynhelir y sesiynau yng Ngogledd a De Cymru.

“Gellir dod o hyd i yrfaoedd galwedigaethol cludadwy rhyngwladol mewn therapi harddwch, gweinyddiaeth busnes, arlwyo, adeiladu, addysg, peirianneg a rhagor. Mae sgiliau technegol a meddal lefel uchel yn ogystal â phrofiad o ddiwylliannau eraill a meistrolaeth ar iaith arall yn gwneud cyfuniad diguro.

“Rwy’n edrych ymlaen at ehangu’r cyfleoedd hyn yng Nghymru trwy ehangu cyfranogiad dysgwyr Cymru mewn lleoliadau gwaith yn Ewrop ac rwy’n dymuno pob lwc i’r grŵp cyntaf o brentisiaid hyn gyda’u Sbaeneg!”

----------------------------------Diwedd-------------------------------------

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. ColegauCymru / CollegesWales was previously known as fforwm. It is a national educational charity that represents all 20 further education (FE) colleges and institutions in Wales. Its mission is to raise the profile of further education with key decision-makers to improve opportunities for learners in Wales. For further information about ColegauCymru / CollegesWales, and the colleges it represents, visit www.colegaucymru.ac.uk  or www.collegeswales.ac.uk  

2. CollegesWales International is the international arm of ColegauCymru / CollegesWales.

3. The European work placement programme organised by CollegesWales International is funded by the Leonardo Programme - part of the European Unionís Lifelong Learning Programme http://www.leonardo.org.uk/  

4. CILT Cymru is the National Centre for Languages in Wales http://www.ciltcymru.org.uk/  

5. In the first year of the CollegesWales International programme, up to 30 apprentices from colleges across Wales will be supported in work placements in Spain. Other countries in Europe have already signalled their interest to become involved in the programme if CollegesWales International is successful in its funding bit to continue the programme beyond 2011/12.

6. The five apprentices learning Spanish today were (L to R in the photo): Rhys Johnson, Rhys Jones, Andrew Stubbs, Luke Parry, Evan Griffiths.

 


 

Spanish class - Luke Perry Nov2011

 

Spanish class in action: the months

 

Andrea with NPTC tutor Colin learning Spanish

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500