6 Awst 2012
Tyfu Addysg Cyfrwng Cymraeg mewn Colegau: Cefnogi Myfyrwyr
Mae ColegauCymru yn falch iawn lansio llawlyfr arfer da ar "Annog myfyrwyr addysg bellach i barhau â'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg" am 1yp ar 8 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng nghwmni y Dirprwy Weinidog Jeff Cuthbert AC.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu ar bob lefel, o addysg gynradd ymlaen. Fodd bynnag, mae yna wastad wedi bod trwch o bobl ifanc sydd wedi eu haddysgu drwy gyfrwng Cymraeg sy'n dewis rhoi'r gorau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg pan fyddant yn cyrraedd cyfnod allweddol newydd o ddysgu. Un o'r cyfnodau lle mae'r cwymp yn digwydd yw yn y cyfnod pontio o'r ysgol uwchradd i goleg addysg bellach.
Mae colegau addysg bellach yn mynd i'r afael â'r mater hwn drwy gynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i'w myfyrwyr. Yn ogystal, maent yn gwneud ymdrech sylweddol, o fewn y sector coleg yn ogystal ag mewn cydweithrediad ag ystod eang o bartneriaid, i annog myfyrwyr o 14 oed i fyny i barhau i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
Mae'r llawlyfr arfer da sy'n cael ei lansio yn yr Eisteddfod ar 8 Awst, a baratowyd gan yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth â Wavehill, yn dangos bod yna lawer o enghreifftiau o arfer da a chynnydd cadarnhaol i'w gael mewn colegau mhob cwr o Gymru.
Mae'r llawlyfr yn nodi arfer da gan golegau yn y meysydd canlynol:
- Targedu dysgwyr ac ymyrryd yn gynnar, gan gynnwys darparu cyrsiau i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg, addysgu cyfoedion, cymorth ar-lein ac adnoddau, grwpiau tiwtorial
- Darpariaeth anffurfiol, allgyrsiol, fugeiliol a chymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg
- Marchnata ac ymgyrchoedd hyrwyddo, gan gynnwys astudiaethau achos o gyn-fyfyrwyr dwyieithog, DVD a chylchgrawn Gymraeg gan fyfyrwyr
- Hyrwyddo gwerth y Gymraeg yn y farchnad lafur ac yn y gweithle, gan gynnwys lleoliadau gwaith a chysylltiadau gyda chyflogwyr
- Datblygu gallu staff i addysgu a rhyngweithio gyda dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg
- Gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, gan gynnwys cysylltiadau ag ysgolion, rhwydweithiau 14-19, sefydliadau addysg uwch a sefydliadau eraill megis yr Urdd, Twf a Mentrau Iaith
Dywedodd Mark Jones, Is-gadeirydd Uwch ColegauCymru: "Mae ColegauCymru a cholegau addysg bellach ledled Cymru yn awyddus i gynyddu ymhellach addysg cyfrwng Cymraeg mewn colegau ac i roi i fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i symud ymlaen.Rwy'n falch iawn bod y llawlyfr, a baratowyd gan Brifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Wavehill, yn nodi bod enghreifftiau o arfer da eisoes yn bodoli mewn colegau ym mhob cwr o Gymru.
"Un canfyddiad arbennig o galonogol o'r ymchwil y mae'r llawlyfr yn tynnu arno yw bod colegau yn gynyddol yn gweithio mewn partneriaeth agos gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys ysgolion, rhwydweithiau 14-19, sefydliadau addysg uwch, yr Urdd, a Mentrau Iaith.Mae'r cydweithio hwn yn buddio myfyrwyr coleg yn ogystal â'r gymuned ehangach.
Casglodd Mark Jones: "Mae cyhoeddi'r llawlyfr yn galluogi'r arfer da gael ei rannu fel y gall pob coleg yn ogystal â rhanddeiliaid eraill weithio gyda'i gilydd i wella ymhellach."
Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, Jeff Cuthbert: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu Cymru ddwyieithog. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn datblygu sgiliau iaith Gymraeg gweithlu'r dyfodol.
“Dwi’n falch gweld cymaint o enghreifftiau o arfer da gan y colegau addysg bellach a’u partneriaid sy’n creu cyfleoedd i ddysgwyr o 14 oed i fyny. Edrychaf ymlaen at glywed am ddatblygiadau pellach yn y dyfodol, wrth i'r arfer da gael ei rannu ar draws y colegau a'r partneriaid i gyd.”
-----------------------------------------Diwedd-------------------------------------
Cysylltwch â: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion
1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy’n cynrychioli pob un o'r 19 coleg a sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw codi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth am ColegauCymru a'r colegau mae'n eu cynrychioli, ewch at www.colegaucymru.ac.uk
2. Mae lansiad y llawlyfr yn digwydd am 1yp ar 8 Awst ym mhabell Coleg Penybont ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, Bro Morgannwg. Mae'r babell wedi ei lleoli yn MO3/MO4, yn agos i'r Babell Lên a'r Lle Celf.
3. Am gyfarwyddiadau i gyrraedd yr Eisteddfod, cliciwch: http://www.eisteddfod.org.uk/english/content.php?nID=684
4. Pwrpas y Llawlyfr hwn yw rhannu enghreifftiau o arfer da cyfredol yn y sector addysg bellach (AB) sy'n annog myfyrwyr i barhau â'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Cafodd y Llawlyfr ei gomisiynu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg fel rhan o'r prosiect 'Dewis Da', ac fe'i cynhyrchwyd gan Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Wavehill. Bydd ar gael (yn Gymraeg a Saesneg) ar y wefan ColegauCymru o 8 Awst.