Aelodau TeamUK Cliff Williams a Dean Jones wrth ddychwelyd o Worldskills Calgary 2009

worldskills

Cynhelir cystadleuaeth WorldSkills pob dwy flynedd. Fe ddaw a phobl ifainc dan 25 oed ynhyd o bedwar ban byd i gystadlu am fedalau am y gorau o blith y goreuon yn eu sgil arbenigol.

Adwaenir WorldSkills yn "Olympics" rhyngwladol ar gyfer sgiliau galwedigaethol. Mae'r WorldSkills nesaf - y 41ain - yn cymryd lle yn y DU, rhwng 5-9 Hydref 2011 yn ExCeL, Llundain. Fe'i gelwir "WorldSkills London 2011".

Bu i WorldSkills ei lwyfannu o'r blaen yn y DU yn 1965 yn Glasgow, ac yn 1989 yn Birmingham.

Am Tîm y DU (Team UK)

Mae 43 o gystadleuwyr oed 18-25 yn Nhîm y DU Team. Un aelod o'r tîm yw David Bowen, myfyriwr 18 oed sy'n dysgu dylunio gwe yng Ngholeg Sir Gâr. 

WorldSkills London 2011

Daw WorldSkills London 2011 â 1,000 o gystadleuwyr at ei gilydd o dros 50 o wledydd a rhanbarthau i gystadlu mewn 46 o wahanol gystadleuthau. Disgwylir y bydd tua 150,000 o bobl yn mynychu'r digwyddiad, gan gynnwys ymhell dros 800 o Gymru. Mae'r 46 categori o fedalau yn cwmpasu'r saith sector canlynol:

  • Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gofal
  • Amaeth, Gwyddorau blodau a llysiau, Gofal Anifeiliaid
  • Peirianneg a Technolegau Gweithgynhyrchu
  • Adeiladwaith, Cynllunio a'r Amgylchedd Adeiladol
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Manwerthu a Mentro 
  • Arlunio, y Cyfryngau a Chyhoeddi

Every community and business in the UK thrives on skills, enterprise and inspiration and the WorldSkills London 2011 team is working to make sure that the competition acts as a catalyst to spark the ambitions not just of competitors but of people across the country. Visitors to the event will discover how skills shape our world, get the chance to Have a Go at a wide range of skills activities, and have an opportunity to talk to a range of experts about future career options and opportunities. To find out more, visit: www.worldskillslondon2011.com.

Yn 2009, cafodd WorldSkills ei llwyfannu yn Calgary, Canada, lle bu i dîm y DU orffen yn 7fed allan o'r 46 o wledydd a gymrodd ran.

Bu dau Gymro ymhlith y 26 aelod o dîm y DU ac fe enillodd y ddau glod am eu perfformiadau o fri:

  • Cliff Williams, saer hunan-gyflogedig o Dalyllychau, Sir Gaerfyrddin, a dderbyniodd hyfforddiant gan Goleg Sir Gâr ac a fwrodd ei brentisiaeth gydag Anthony Rees Building, a
  • Dean Jones, mecanig o Abertawe a fu'n astudio yng Ngholeg Gwent ac a fwrodd ei brentisiaeth gyda Mercedes-Benz.  
  •  

Enwogion Tîm Cymru

Bob blwyddyn, mae cannoedd o fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid uchelgeisiol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau (fel WorldSkills UK a Chystadleuaeth Sgiliau Cymru). Diben y cystadlaethau hyn yw profi pwy sydd â'r gallu i fod yn bencampwr. Mae gyrfa ddisglair yn aros y rheini sydd â'r gallu i gyflawni. Cliciwch am neges fideo gan rai sydd wedi cyrraedd rhestr enwogion Tîm Cymru.

Mynna fod yn bencampwr: www.worldskillsuk.org/wales

Credydau: 'Y Rhestr Enwogion', Y Sgript. Ysgrifennwyd gan O'Donoghue/Sheehan/Frampton/Bar. Cyhoeddwyd gan Imagem Music.

Cystadleuwyr Cymru

Dysgwch am y 37 o Gymru sy'n cystadlu yn The Skills Show: The Skills Show 2012: Wales brochure

 

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500