Mae'r bwrdd o gyfarwyddwyr yn sicrhau hygrededd ariannol ColegauCymru ac mae'n rhoi arweiniad strategol. Yn ogystal, mae aelodau unigol o'r bwrdd yn cadeirio'r grwpiau strategol canlynol:
- Awdit
- Curicwlwm a Pholisi
- Grwp Llywio'r Consortiwm Pwrcasu Addysg Bellach Cymru (WFEPC)
- Gwella Ansawdd a Lleihau Biwrocratiaeth
Mae aelodaeth o'r bwrdd yn cynnwys saith pennaeth coleg a thri chadeirydd corfforaethol fel a ganlyn:
- pedwar pennaeth a etholwyd ar lefel genedlaethol gan yr holl aelod-sefydliadau
- tri phennaeth a etholwyd yn rhanbarthol gan benaethiaid o fewn y rhanbarth benodol:
- y canolbarth a'r gogledd
- y de orllewin
- y de ddwyrain
- tri chadeirydd corfforaethol a etholwyd yn rhanbarthol fel yr uchod.
Tair blynedd yw hyd tymor pob etholiad. Dau dymor o wasnaeth yn olynol yw'r cyfnod hwyaf a ganiateir. Mae aelodau o'r bwrdd yn gwasanaethu fel unigolion, a rhaid iddynt ymddwyn er budd y cwmni yn hytrach nag er budd eu coleg neu eu dalgylchoedd eu hunain.
Mae'r Bwrdd yn ethol Cadeirydd a thri Is-Gadeirydd o'u plith. Mae'r Is-Gadeiryddion yn cynnal ac yn cadeirio cyfarfodydd rhanbarthol o benaethiaid. Mae'r tri chadeirydd corfforaethol yn cynnal ac yn cadeirio cyfarfod blynyddol o Gadeiryddion Cyrff Llywodraethu yn eu rhanbarthau pernthnasol.