Colegau yng Nghymru a Chanada i gydweithio i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, mewn prosiect newydd a ariennir gan Taith

handsin.jpeg

Mae ColegauCymru wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllid Llwybr 2 Taith i bartneru gyda Colleges and Institues Canada  i sefydlu Cymuned Ymarfer rhwng colegau yng Nghymru a Chanada i fynd i’r afael â rhai o’r materion a godwyd yn adroddiad Estyn Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed mewn addysg bellach ledled Cymru. 

 Bydd y prosiect yn mynd i’r afael â phryderon a godwyd yn adroddiad Estyn a gyhoeddwyd yn 2023, gyda ffocws penodol ar sut i atal a mynd i’r afael ag agweddau a diwylliannau misogynistaidd ymhlith grwpiau o ddysgwyr mewn colegau addysg bellach. 

 Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o safon fyd-eang, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy’n cefnogi’r gymuned ehangach, cyflogwyr a’r economi. 

Mae'n annerbyniol bod dysgwyr yn wynebu unrhyw fath o aflonyddu. Er bod arfer dda yn y sector wedi’i nodi, mae’r adroddiad yn gywir yn amlygu’r angen am welliannau o ran addysgu dysgwyr am ymddygiad priodol a pherthnasoedd iach a’r angen i staff y coleg gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gefnogi dysgwyr. Rydym yn ddiolchgar i Taith am ddarparu’r cyllid hwn a fydd yn cefnogi’r sector i gyflawni’r nodau hyn – gyda llwyfan i rannu profiadau ac arfer gorau, ac i weithredu’r argymhellion yn yr adroddiad.” 

  Ychwanegodd Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran, 

“Nod ac allbwn allweddol y prosiect yw adeiladu Cymuned Ymarfer trawswladol, a fydd yn dod â staff addysg bellach o Gymru a’n partner o Ganada, Colleges and Institutes Canada (CICan), ynghyd, sydd â diddordeb cyffredin yn y maes hwn, i rannu gwybodaeth, datblygu dysgu newydd a choladu enghreifftiau o arfer gorau trwy astudiaethau achos. 

Bydd y corff pwysig hwn o waith yn cefnogi ein colegau i adeiladu diwylliant lle gall athrawon herio drygioni yn hyderus, lle bynnag y’i gwelir mewn colegau, a grymuso dysgwyr i ymddiried yn systemau adrodd y coleg a’u defnyddio, yn hyderus y gwrandewir ar eu pryderon ac y gweithredir arnynt.” 

Ychwanegodd Alain Roy, Is-lywydd, Partneriaethau Rhyngwladol ar gyfer CICan, ymhellach, 

“Dyma gyfle cyffrous i ColegauCymru a CICan adeiladu ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a arwyddwyd gan y ddau sefydliad ym mis Ebrill 2023. Edrychwn ymlaen at weithio gyda ColegauCymru, staff colegau Cymru a staff o rai o’n colegau cymunedol yng Nghanada i gyfrannu at weithgareddau a chanlyniadau’r prosiect.” 

Mae Rhaglen Llwybr 2 Taith yn cefnogi rhannu gwybodaeth, arbenigedd a dysgu cydweithredol rhwng sefydliadau Cymreig a rhyngwladol, i ddatblygu theori ac ymarfer mewn addysg yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Bydd y cyllid yn rhedeg o 1 Mai 2024 – 31 Rhagfyr 2025. 

Gwybodaeth Bellach 

Taith 
Rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru, sy'n creu cyfleoedd sy'n newid bywydau i deithio, gwirfoddoli, dysgu a phrofi. 
Canllaw Rhaglen Llwybr 2 Taith 

Adroddiad Thematig Estyn
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru 
Mehefin 2023 

Colleges and Institutes Canada (CICan) 
Llais Colegau a Sefydliadau Canada 

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.