Canllawiau Statudol Drafft ar gyfer Sefydlu Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol (CBCau)

numbers-money-calculating-calculation-3305.jpg

Ymateb i'r Ymgynghoriad

Llywodraeth Cymru
Dyddiad Cyflwyno:
4 Hydref 2021

Mae ColegauCymru yn dadlau fod angen i'r sector addysg bellach chwarae rhan lawn yng ngwaith cyd-bwyllgorau corfforaethol (CBCau), yn enwedig mewn trafodaethau ynghylch hyrwyddo lles economaidd eu hardaloedd, neu lle mae rôl addysg yn cael ei ehangu i drafodaethau am ddarpariaeth ôl-16.

Dylai fod yn ofynnol i CBCau adrodd yn rheolaidd ar amrywiaeth aelodaeth y CBC a'r aelodau y mae wedi'u cyfethol. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth ieithyddol ac yn benodol, sgiliau Cymraeg cyfranogwyr.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Chyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Dr Rachel Bowen, gydag unrhyw gwestiynau.
Rachel.Bowen@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.