Arloesedd Digidol: Gwaith newidiol, Cymru newidiol - adroddiad yn galw am atgyweirio cynllunio sgiliau rhanbarthol

Mae ColegauCymru wedi croesawi gyhoeddiad Cymru 4.0 Cyflawni Trawsnewidiad Economaidd ar Gyfer Gwell Dyfodol Gwaith yr wythnos hon.

Mae’r adolygiad yma, wedi ei hysbysu gan gyfnod ymgynghori helaeth, yn cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion allweddol gan yr Athro Phil Brown. Mae'r adroddiad yn nodi adolygiad sydd yn ymchwilio i sut y mae’r datblygiadau chwim mewn arloesedd digidol yn debygol o effeithio ar economi a dyfodol gwaith yng Nghymru. Cynhaliwyd yr adroddiad gan yr Athro Brown ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion diddorol a heriol, gan gynnwys yr angen i wneud amrywiaeth o ddiwygiadau gyda’r amcan o greu capasiti mewn addysg ôl-orfodol. Yn bwysig, pwysleisiodd yr adolygiad yr angen i wella gwaith RSPau drwy ganolbwyntio mwy ar ymyriadau seiliedig ar alw sydd yn gwella capasiti amsugno busnesau i arloesi mewn perthynas ag ymestyn sgiliau ac ailddylunio swyddi. Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion diddorol a heriol, gan gynnwys dylai cynyddu galw cyflogwyr am, a buddsoddi mewn hyfforddiant, fod yn un o amcanion allweddol RSPau, yn hytrach na dim ond echdynnu capasiti o gyllid presennol ar gyfer darpariaeth sgiliau oedolion.

Dywedodd Dr Rachel Bowen, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus yng NgholegauCymru:

“Mae hwn yn adroddiad cyffrous ac eang sy'n mynd i'r afael â'r materion allweddol sy'n wynebu Cymru o ganlyniad i arloesi digidol. Er ein bod yn edrych ymlaen at ymgysylltu â'r adroddiad a'i argymhellion yn fwy manwl, mae'r sector Addysg Bellach yn awyddus i groeso heriau Cymru 4.0 ac mae eisoes yn gwneud hynny: o uwchsgilio ac ailhyfforddi addysg oedolion trwy opsiynau mwy hyblyg, i integreiddio technoleg ddigidol ar draws pob math o ddysgu.”

“Mae diwygiad ystyrlon o’r cynlluniau sgiliau rhanbarthol mewn hen bryd. Rydym yn awyddus i weld ymchwiliad Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad Cenedlaethol i RSPs, a sut mae eu hargymhellion yn cyd-fynd ag argymhellion adroddiad Cymru 4.0.”

“Mae ColegauCymru hefyd yn awyddus i feddwl sut y gellir ymgorffori’r Gymraeg mewn i argymhellion yr adroddiad wrth i ni geisio adeiladu Cymru yn y dyfodol sy’n gwbl ddwyieithog.”

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.