Lloegr yn ynrwymo i fuddsoddi mewn addysg oedolion a sgiliau - Ble nesaf i Gymru?

Classroom.jpg

Gydag Etholiad Senedd Cymru ar y gorwel, mae Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith David Hagendyk yn myfyrio ar ddyfodol addysg oedolion a sgiliau yn Lloegr ac yn edrych ar yr hyn a allai fod yn ddyfodol Cymru. 

Byddai'n rhy ddramatig ei alw'n ddatrysiad perffaith, ond mae'r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog am Warant Sgiliau Oes newydd yn Lloegr yn rhoi ergyd wirioneddol inni i wneud addysg oedolion ac ailhyfforddi yn fater etholiad yma yng Nghymru ym mis Mai 2021. 

Cyn i mi fynd ymhellach: ie, gwn yn y manylion y mae’r diafol (fel bob amser!) ac y gwn hefyd mai cyhoeddiad ar gyfer Lloegr yn unig oedd hwn ond gallai fod yn arwyddocaol wrth feincnodi ymrwymiadau’r pleidiau datganoledig cyn etholiadau’r Senedd.  

Wrth wraidd ymrwymiad y Prif Weinidog yw addewid cwrs coleg am ddim, wedi'i ariannu'n llawn, ar gyfer oedolion Lloegr sydd heb gymhwyster Safon Uwch neu gymhwyster cyfwerth. Ychydig ddyddiau gynt, ymrwymodd Ceidwadwyr Cymru i fuddsoddi mewn addysg bellach, ehangu cyfleoedd prentisiaeth gradd, a chreu lwfans dysgu oedolion i'w ddefnyddio ar radd, hyfforddiant technegol, neu gyrsiau penodol. Maent yn cynrychioli cydnabyddiaeth gynyddol gan y Ceidwadwyr o'r rôl ehangach y gall colegau ac addysg bellach ei chwarae wrth gwrdd â heriau ailadeiladu yn dilyn y pandemig a’r heriau tymor hir fydd yn dod yn sgil newidiadau demograffig a digideiddio. Maent yn cynrychioli dechrau sgwrs go iawn am werth addysg a sgiliau oedolion. 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi ymrwymiad tebyg i ymrwymiad y Prif Weinidog, sef datblygu hawl i addysg gydol oes, ond mae cynnydd bellach wedi dod i ben. 

P'un a yw'n hawl i addysg gydol oes, Gwarant Sgiliau Oes, mynediad at Gyfrifon Dysgu Personol, neu lwfans addysg oedolion, mae'r seilwaith sydd y tu ôl iddynt yn bwysicach na'r pennawd. Mae’r ‘hawl’ neu ‘warant’ ond cystal â’r gallu’r unigolyn i’w ymarfer. Mae diffinio'r hawl yn lle da i ddechrau ond mae'n hanfodol nad yw hyn yn cael ei ystyried fel y pwynt terfynol. Mae angen i ni ganolbwyntio ar y seilwaith ac ar y gefnogaeth sydd ei hangen ar ddysgwyr. Rhaid i hyn gynnwys: 

  • Buddsoddi yn y system gyfan: mae buddsoddi mewn addysg bellach a sgiliau oedolion yn ffordd ddibynadwy o sicrhau enillion da ar fuddsoddiad. Mae lefelau cyrhaeddiad a chwblhau yn dda ac mae canlyniadau ar draws ystod o fesurau yn sefyll i fyny i graffu. Ond mae dysgu oedolion yn ecosystem lle mae angen sawl pwynt mynediad yn ôl i addysg ar ddysgwyr ac i allu symud ymlaen â'u hastudiaethau. I rai, coleg neu brifysgol fydd hwn, ond i eraill bydd yn cerdded i mewn i'w canolfan gymunedol leol, yn mewngofnodi o bell, yn dechrau prentisiaeth, neu’n dilyn cwrs yn y gwaith am y tro cyntaf. Mae angen mwy o fuddsoddiad ar y system gyfan, gan gynnwys mewn dysgu yn y gymuned ac mewn Sgiliau Hanfodol a lefelau cyn mynediad. 
     
  • Strategaeth dysgu gydol oes: Wrth edrych yn agosach ar y system addysg a sgiliau oedolion, mae'r patrwm yn ddegawd o ddirywiad mewn cyfranogiad yma yng Nghymru ac ar draws y DU gyfan. Mae buddsoddiad yn un cam i wyrdroi'r duedd, ond mae angen cynllun arnom hefyd. Rydym wedi galw am strategaeth addysg gydol oes i ddod â gweithgareddau gwahanol ddarparwyr ynghyd ac i sicrhau bod y system yn gweithio mewn ffordd gydlynol. Nawr yn fwy nag erioed dylai hyn gynnwys ymrwymiad mawr ar ddysgu digidol a chyfunol (gan gynnwys ar y gagendor digidol), yn ogystal â chyfleoedd dysgu hyblyg ehangach, cysylltiadau clir ag anghenion cyflogwyr lleol, a ffyrdd i ddysgwyr gael mynediad at gyngor a chefnogaeth. Dylai pleidiau wrthsefyll y demtasiwn i fynd am newidiadau strwythurol mawr ac yn hytrach canolbwyntio ar fuddsoddi mewn ansawdd, cynyddu beth sy'n gweithio, ac uno'r system. 
     
  • Gweithredu'n gyflym ac ymddiried yn y sector: bydd llawer o'r ffocws dros y misoedd nesaf ar y rhagolygon ar gyfer yr etholiad ym mis Mai 2021. Mae brwydr fawr o syniadau ac uchelgais i'w chroesawu ac mae'n hwyr ei chyrraedd, ond mae angen i ni ganolbwyntio hefyd ar y presennol. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos bod colled sylweddol o swyddi yn digwydd nawr gyda cholledion pellach ar y ffordd. Os bydd Ceidwadwyr Cymru yn dod i mewn i'r llywodraeth ym mis Mai yna mae angen i sgiliau a hyfforddiant ar gyfer oedolion fod ar frig eu rhestr i'w gwneud, ond dylent hefyd fod yn galw am fwy o gefnogaeth nawr a gweithio i sicrhau bod oedolion sydd mewn perygl o gael eu diswyddo yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i ailhyfforddi. Nid yw hon yn agenda bolisi a all aros. Mae angen gweithredu ar frys. Ymatebodd y sector addysg oedolion yn wych i gamau cynnar yr argyfwng ac, wedi'u harfogi â'r cynllun a'r buddsoddiad, dylai'r llywodraeth ymddiried ynddynt i fwrw ymlaen â'r swydd ac i ddiwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. 

Mae'r hyn a welsom gan y Ceidwadwyr yn San Steffan ac yma yng Nghymru yn ddechrau da ac yn her i'r pleidiau eraill nodi eu syniadau ar gyfer buddsoddi a diwygio. Gallai Mai 2021 fod yr etholiad lle mae addysg a sgiliau oedolion yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. 
 
David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru 
Sefydliad Dysgu a Gwaith 
Penodwyd David yn Gyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith ym mis Mawrth 2017 ac mae'n gyfrifol am arwain gwaith y sefydliad yng Nghymru ac am hyrwyddo i'r llywodraeth a darparwyr gwasanaeth werth addysg oedolion a'r angen am fuddsoddiad a pholisïau i godi cynhyrchiant, gwella dilyniant o gyflog isel ac i leihau anghydraddoldeb. 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.