Cydweithwyr addysg bellach yn ymweld ag Awstria i archwilio hyfforddiant ac uwchsgilio ymarferwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol

Roof Vienna.jpg

Teithiodd dirprwyaeth o gydweithwyr addysg bellach i Fienna, Awstria rhwng 19-23 Mehefin 2023 i archwilio hyfforddiant ac uwchsgilio ymarferwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET). Trefnwyd yr ymweliad gan ColegauCymru gan ddefnyddio cyllid Erasmus+. 

Gan ganolbwyntio ar broffesiynoldeb deuol staff VET yn Awstria, nod yr ymweliad oedd llywio’r gwaith cyfredol sy’n cael ei wneud yng Nghymru ar ddysgu proffesiynol yn y sector ôl-16. 

Roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys uwch staff o 10 coleg AB yng Nghymru, staff ColegauCymru a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Estyn a Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Trefnwyd y rhaglen o gyflwyniadau, cyfarfodydd a thrafodaethau gan Marie Keller o Internationaler Fachkrafteaustausch / Cyfnewidfa Gweithwyr Ifanc Rhyngwladol (Cymdeithas yr IFA). 

Ymwelwyd â nifer o sefydliadau allweddol gan gynnwys: 

  • WKO, Siambr Economaidd Awstria yn Fienna 
  • Padagogoische Hoschule Wien, y sefydliad sy'n gyfrifol am hyfforddi athrawon mewn ysgolion IVET 
  • IBW Awstria sy'n gwneud gwaith ymchwil a datblygu yn y sector VET 
  • WIFI – canolfan addysgol y Siambr Fasnach sy'n gyfrifol am hyfforddi'r hyfforddwyr prentisiaid mewnol (mewn cwmnïau) 

Cafodd y ddirprwyaeth hefyd gyfle i ymweld â choleg galwedigaethol a oedd yn arbenigo mewn Garddwriaeth a Blodeuwriaeth. Roedd y cyfleusterau yn y coleg yn arbennig o drawiadol, gyda Phennaeth y coleg yn croesawu’r grŵp yn gynnes, gan arwain taith dywys o amgylch y campws ac ateb llawer o gwestiynau. 

Meddai Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol ColegauCymru, 

Roeddem yn falch iawn o ymweld â Fienna i archwilio system VET Awstria gyda ffocws ar hyfforddi ac uwchsgilio staff o fewn y sector. Mae hyn yn rhoi pwynt cymharu inni wrth drafod dysgu proffesiynol staff VET yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar i’r Gyfnewidfa Gweithwyr Ifanc Rhyngwladol (IFA) sydd wedi llunio rhaglen lawn o weithgareddau.

Dywedodd Bryony Evett-Hackfort, Cyfarwyddwr Dysgu, Addysgu, Technoleg a Sgiliau Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion, 

Mae’r cyfle wedi bod yn hynod o ysgogol ac ysbrydoledig. Roedd y rhaglen gynhwysfawr yn wych ac mae cael y cyfle i archwilio un pwnc o sawl safbwynt wedi rhoi dealltwriaeth mor ddwfn i bethau sy'n gweithio a'r rhai nad ydynt yn gweithio. Mae didwylledd a thryloywder pawb y buom yn siarad â nhw yn golygu bod syniadau gwirioneddol a diriaethol i’w cyflwyno. Roeddwn yn gwerthfawrogi’n fawr lefel yr hygyrchedd a gawsom a’r anogaeth i gwestiynu’n feirniadol er mwyn dod o hyd i ffyrdd eraill o wneud pethau

Gwybodaeth bellach 

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol  
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk  

Gwefan Cymdeithas IFA

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.