Ymrwymiad colegau addysg bellach ledled Cymru i gefnogi menywod drwy’r menopos

pexels-fauxels-3184465.jpg

Heddiw, ar Ddiwrnod Menopos y Byd 2023, mae holl golegau addysg bellach Cymru wedi llofnodi Adduned Menopos y Gweithle, gan ymrwymo i gymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pawb sy’n mynd drwy’r menopos yn cael eu cefnogi.

Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Rachel Cable,

“Mae’r cam hwn ar draws y sector yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi menywod o bob oed ac i wneud addysg bellach yn sector diogel a chynhwysol i weithio ac astudio ynddo. Rwy’n falch iawn bod pob coleg yng Nghymru wedi gwneud yr ymrwymiad hwn, gan ymateb i’r angen i roi cymorth ac arweiniad ar waith i’r holl staff.”

Crëwyd Adduned Menopos y Gweithle gan yr elusen Wellbeing of Women i annog cyflogwyr i gymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pawb sy’n mynd drwy’r menopos yn cael eu cefnogi. Drwy lofnodi’r Addewid, mae ein sefydliadau addysg bellach wedi ymrwymo i gydnabod y gall y menopos fod yn her yn y gweithle ac efallai y bydd angen cymorth ar unrhyw un sy’n mynd drwyddo, yn siarad yn agored, yn gadarnhaol ac yn barchus am y menopos ac yn mynd ati i gefnogi a hysbysu cyflogeion y mae’r menopos yn effeithio arnynt.

Mae colegau ar hyd a lled Cymru eisoes yn gweithredu. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe er enghraifft, mae Caffis Menopos yn darparu cyfleoedd i staff gwrdd ag arbenigwyr menopos, a chynnal seminarau ar sut i reoli symptomau. Yn fwyaf diweddar, cafodd staff a dysgwyr gyfle i roi cynnig ar MenoVestTM, sy'n efelychu'r teimlad o fflysio poeth. Dysgwch fwy am Statws Ystyriol i’r Menopos Coleg Gŵyr Abertawe.

Yn aml ni sonnir am y menopos yn y gweithle ac nid yw llawer o bobl yn ei ddeall nes ei fod yn digwydd iddyn nhw neu i rywun agos. Er na fydd rhai yn cael unrhyw broblemau o gwbl, bydd eraill yn cael trafferth gyda sgil-effeithiau gwanychol sy'n effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau. Mae colegau wedi ymrwymo i gefnogi staff sy’n profi’r menopos, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu ffynnu yn y gweithle.

Beth mae hyn yn ei olygu i'n colegau addysg bellach

Drwy lofnodi’r Addewid, mae ein colegau wedi ymrwymo i:

  • cydnabod y gall y menopos fod yn broblem yn y gweithle a bod angen cymorth ar fenywod;
  • siarad yn agored, yn gadarnhaol ac yn barchus am y menopos; a
  • cefnogi a hysbysu gweithwyr y mae'r menopos yn effeithio arnynt.

Fel rhan o'r ymrwymiad i'r Addewid hwn, mae colegau wedi sefydlu amryw o gyfleoedd hyfforddi, cefnogaeth a llwyfannau rhannu gwybodaeth lle gall unigolion ofyn am gyngor a thrafod unrhyw beth sy'n ymwneud â menopos.

Gwybodaeth bellach

Dysgwch fwy am Addewid Menopos y Gweithle

Ymrwymiad sefydliad Colegau Cymru i Adduned Menopos y Gweithle 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.