Symudedd mewnol staff yn cynnig ymagwedd newydd arloesol at gyfleoedd dysgu rhyngwladol

pexels-aleksandar-pasaric-1386444.jpg

Wedi’i ariannu gan Taith drwy brosiect consortiwm ColegauCymru, y mis diwethaf cafwyd ymweliad symudedd mewnol gan Nexgen Careers i golegau addysg bellach ledled Cymru. 

Wedi’i leoli yn Barcelona, cenhadaeth Nexgen yw helpu i greu profiadau dysgu proffesiynol effeithiol, cynnwys a chyrsiau i gefnogi dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau craidd sydd eu hangen i ddod o hyd i lwyddiant eu gyrfa yn y dyfodol. 

Ar raglen gynhwysfawr, teithiodd Cecilia Nillson ac Andreu Gual ar hyd a lled Cymru gydag ymweliadau â 6 choleg gan gynnwys Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Cambria, Coleg Gwent, Coleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion, Coleg Sir Benfro a Choleg Catholig Dewi Sant. 

Mae Nexgen yn darparu ystod o hyfforddiant personol a chyfleoedd profiad gwaith i ddysgwyr addysg bellach. Mae ganddynt hefyd arlwy dysgu o bell eang gyda rhaglenni ar gael mewn ystod o feysydd megis Meddwl yn Greadigol, Meddwl yn Ddadansoddol, Dysgu Gydol Oes, AI a Data Mawr, Gwydnwch ac Ystwythder, Llythrennedd Technoleg, Meddwl trwy Systemau, Hunan-Ymwybyddiaeth a Dylanwad Cymdeithasol; ac wedi'u creu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy hanfodol i alluogi dysgwyr i uwchsgilio a chymryd perchnogaeth o'u llwybr gyrfa yn y dyfodol. 

Roedd yr ymweliad hefyd yn llwyfan i Nexgen rannu manylion o raglen o ddarpariaeth DPP ar gyfer staff sy’n edrych ar Ddyfodol Gwaith a Rhyngwladoliaeth yn y cwricwlwm addysg bellach. Cydweithiodd Nexgen â ColegauCymru ar raglen hyfforddi staff yn Barcelona ym mis Chwefror 2023 i gefnogi athrawon addysg bellach i ddatblygu ffyrdd arloesol o ymgorffori profiadau rhyngwladol yng nghymhwyster newydd Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru. 

Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran, 

“Roeddem yn falch iawn, unwaith eto, i groesawu ein cydweithwyr yn Nexgen i Gymru. Roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i gryfhau partneriaethau rhyngwladol. Gyda chymorth cyllid Taith, roedd Cecilia ac Andreu yn gallu rhannu eu harbenigedd gyda cholegau addysg bellach yng Nghymru i ddangos y ffyrdd arloesol y gallwn ymgysylltu â symudiadau tramor i ehangu dysg a rhagolygon dysgwyr a staff.” 

Ychwanegodd Pennaeth Partneriaethau Byd-eang a Digidol Nexgen, Cecilia Nilsson, 

"Roeddem yn falch o gael y cyfle i ymweld â cholegau yng Nghymru unwaith eto. Gyda dros 10 mlynedd o brofiad o weithio gyda Taith, Erasmus+, Cynllun Turing a mentrau Dysgu Gydol Oes yn rhai o'r dinasoedd mwyaf entrepreneuraidd ar draws Ewrop, rydym yn gyffrous i weithio gyda chydweithwyr yng Nghymru i barhau i helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer llwyddiant yn y byd gwaith." 

Mae ColegauCymru Rhyngwladol wedi ymrwymo i weithio gyda rhaglenni a ariennir fel Taith a Chynllun Turing, i ddarparu cyfleoedd dysgu i ddysgwyr a staff addysg bellach ledled Cymru na fyddent efallai'n cael y cyfle i'w profi fel arall. 

Gwybodaeth Bellach 

Taith: Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Cymru 
Taith.Cymru 
Mae Taith yn rhoi cyfle i ddysgwyr, pobl ifanc, a staff wneud teithiau cyfnewid rhyngwladol, yn y tymor byr a'r tymor hir, sydd yn ei dro yn cynnig cyfleoedd i rannu dysgu, profi diwylliannau gwahanol a datblygu sgiliau newydd. Mae rhaglen symudedd mewnol Taith yn hyrwyddo dwyochredd drwy ddarparu cyllid i wahodd partneriaid i Gymru. 

Gyrfaoedd Nexgen  
Nexgencareers.co  
Cefnogi myfyrwyr i gamu i ddyfodol gwaith yn hyderus 

Adroddiad ColegauCymru 
Rhyngwladoli yn y sector addysg bellach yng Nghymru 
Mai 2021 

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk  

Vicky Thomas, Swyddog Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol 
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.