Sharron Lusher yn cael ei anrhydeddu am wasanaethau i addysg bellach

Students sitting on a college wall.jpg

Mae cyn-Bennaeth Coleg Sir Benfro a Chadeirydd ColegauCymru, Sharron Lusher, wedi cael ei anrhydeddu yn Rhestrau Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines eleni am ei gwasanaethau i addysg bellach. 

Mae Mrs Lusher wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus yn y sector, gan gynnwys chwe blynedd fel Pennaeth a 22 mlynedd i gyd yng Ngholeg Sir Benfro. Ar hyn o bryd mae hi'n cadeirio Corff Adolygu Tâl Annibynnol Cymru sy'n adrodd i'r Gweinidog Addysg ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyflog ac amodau athrawon ac arweinwyr ysgolion yng Nghymru. 

Ymhellach, mae Mrs Lusher wedi gwasanaethu fel Cadeirydd ColegauCymru, ac fel aelod gwerthfawr o lawer o fyrddau gan gynnwys Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol  ac Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau. 
 
Yn ystod ei chyfnod fel Pennaeth, roedd Mrs Lusher wedi ymrwymo'n llwyr i godi proffil addysg bellach a thynnu sylw at ei bwysigrwydd wrth ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer economi lewyrchus. Buddsoddodd y Coleg yn barhaus i wella ei ganlyniadau ansawdd gan dderbyn naw dyfarniad Da a chwe dyfarniad Rhagorol gan Estyn. Roedd data meincnodi addysg bellach hefyd yn graddio'r Coleg fel y Coleg Addysg Bellach orau yng Nghymru ar gyfer cyfraddau llwyddiant cyffredinol yn 2015/16. 

Mae Mrs Lusher bob amser wedi mynnu bod y dysgwr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau i sicrhau bod colegau addysg bellach yn cynnig y cyfleoedd addysg gorau posibl i bobl ifanc tra hefyd yn diwallu anghenion cyflogwyr lleol. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym yn anfon ein llongyfarchiadau cynhesaf at Sharron am yr anrhydedd o dderbyn MBE yn Rhestrau Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines 2021, am ei harweinyddiaeth a’i chyfraniad o fewn addysg bellach, ac erbyn hyn yn y maes addysg ehangach, sydd wedi’i gyfuno â ffocws di-baid ar y dysgwr.” 

Gwybodaeth Bellach 

Rhestrau Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines 2021
11 Mehefin 2021

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.