Llwyddiant i golegau addysg bellach yng Ngwobrau Ysbrydoli!

Inspire Awards 2023 - 1.jpg

Roedd ColegauCymru yn falch iawn i gefnogi Sefydliad Dysgu a Gwaith yng ngwobrau Ysbrydoli! yng Nghaerdydd ar 14 Medi. Roedd y digwyddiad yn ddathliad o gyflawniadau unigolion, teuluoedd, prosiectau cymunedol a sefydliadau eithriadol sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad ac egni eithriadol i wella eu hunain, eu cymuned neu weithle trwy ddysgu.

Mae’r dathliad blynyddol hwn yn cydnabod cyflawniadau newidiol bywyd pobl, prosiectau, a darpariaeth dysgu oedolion yng Nghymru.

Soniodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, am y cyfle gwych hwn i arddangos llwyddiannau grŵp amrywiol o bobl, pob un yn dangos angerdd, ymrwymiad ac egni i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil dysgu i newid bywydau er mwyn dod yn ddinasyddion gweithgar a llwyddiannus. Tanlinellodd ymrwymiad Cymru i fod yn genedl ail gyfle, lle nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu.

Roedd ColegauCymru yn falch iawn o gael cwmni John Griffiths AS yn y digwyddiad i ddathlu llwyddiant y dysgwyr. Mae John, ei hun yn gyn-ddarlithydd mewn addysg bellach, bellach yn Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Addysg Bellach a Sgiliau’r Senedd.


Yn y digwyddiad, roeddem yn falch iawn o weld cymaint o ddysgwyr o’n sefydliadau addysg bellach (o’r gorffennol a’r presennol) yn cael eu hanrhydeddu am eu gwaith caled a’u hymrwymiad. Yma rydym yn rhannu rhai o'r straeon buddugol a'r camau a gymerwyd ganddynt i adeiladu eu hyder, manteisio ar ail gyfle, a newid eu stori trwy addysg a sgiliau.





Enillydd Gwobr Sgiliau Hanfodol am Oes
Wedi’i enwebu gan Addysg Oedolion Cymru, mae Grŵp Dynion Pobl yn Gyntaf y Fro yn cynnig lle diogel i ddynion yn y gymuned ddysgu sgiliau bywyd newydd ac i gysylltu â’i gilydd.

Enillydd Gwobr Dysgu ar gyfer Iechyd Gwell
Wedi’i henwebu gan Addysg Oedolion Cymru, mae stori Rachel Parker yn sôn am ei thaith i oresgyn adfyd a’r llwybr ymlaen i gymhwyso fel cwnselydd.

Gwobr Hywel Francis ar gyfer Effaith Gymunedol
Gydag enwebiad gan Goleg Caerdydd a’r Fro, mae'r wobr hon yn crisialu'r gwerth y mae ein sefydliadau addysg bellach yn ei roi i'n cymunedau. Darllenwch fwy am Teuluoedd yn Dysgu Gyda'i Gilydd (Coleg Caerdydd a’r Fro).

Enillydd Gwobr Gorffennol Gwahanol: Rhannu’r Dyfodol
Wedi’i henwebu gan Goleg Gŵyr Abertawe, mae stori ysbrydoledig Walid Musa Albuqai yn adrodd am ei daith yn ffoi rhag rhyfel Syria gyda’i wraig a’i dri o blant a dysgu Saesneg, sydd yn ei dro wedi ei gefnogi i gael gyrfa a bywyd llwyddiannus yng Nghymru.

Enillydd Gwobr Heneiddio'n Dda
Wedi’i henwebu gan Addysg Oedolion Cymru, mae stori Jan Wallace yn dyst i werth a phwysigrwydd addysg oedolion ar unrhyw oedran.

Enillydd Gwobr Dysgwr Ifanc Sy’n Oedolion
Wedi’i henwebu gan Goleg Sir Gâr, mae agwedd a ffocws Harley Clements wrth astudio gwasanaethau cyhoeddus yn y coleg a arweiniodd at Radd mewn Gofal a Lles Anifeiliaid, wedi’i gweld yn newid ei llwybr a’i rhagolygon gyrfa gan ei bod bellach yn gweithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid.

Llongyfarchiadau gwresog i’r holl enwebeion ac enillwyr, ac i’r rhai a’u cefnogodd yn eu teithiau dysgu.

Gwybodaeth Bellach

Darganfyddwch fwy am holl enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Gwobrau Dysgu Oedolion
Dewch i gwrdd ag Enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! 2023 Dysgu Oedolion

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.