Cynhwysiant - Herio Ein Rhagdybiaethau

pexels-rfstudio-3810795.jpg

Wrth i ni barhau i ddathlu #WythnosDysgwyrOedolion, mae ymgyrch eleni yn ceisio cysylltu pobl â chyfleoedd dysgu gydol oes a’u hysbrydoli i gofleidio ail gyfleoedd.

Gyda ffocws ar thema allweddol Mynd i’r afael â rhwystrau a hyrwyddo cynhwysiant i bawb, mae Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru, Kathryn Robson yn rhannu ei barn ar bwysigrwydd cynhwysiant a herio ein rhagdybiaethau. 

Mae cynhwysiant yn arwyddair i’n sefydliad – mae’n un o’r conglfeini sy’n sail i’n gwerthoedd a’n hegwyddorion. 

Mae gennym ni amrywiaeth helaeth o bolisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac mae’n dda fod fframweithiau o’r fath yn eu lle. Yn well fyth efallai, gellir dangos yr ymrwymiad hwnnw trwy gyfrwng cynlluniau strategol ynghylch cydraddoldeb; gall y rhain ddylanwadu’n gadarnhaol ar agweddau, yn enwedig os oes cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus o ansawdd uchel ar gael ar gyfer staff ac os cynllun gweithredu blaengar ac ystyrlon yn ei le. 

Fe wnaeth sefyll ar lwyfan sy’n ymddangos mor gadarn fy annog i gychwyn ystyried ysgrifennu darn cefnogol oedd yn cydnabod pwysigrwydd ymgyrchoedd megis Mae Bywydau Du o Bwys, ac fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon ym mis Hydref, dwyn sylw at lwyddiannau cymaint o bobl hynod. 

Felly, cychwynnais trwy ystyried yr holl bethau yr ydym ni’n eu gwneud fel sefydliad i hyrwyddo cynhwysiant, yn enwedig mewn perthynas ag Agenda Bywydau Du. Er enghraifft, ein hymgysylltu eang â dysgwyr o bob cefndir, arlwy amrywiol ein cwricwlwm ledled holl ranbarthau Cymru, a’n hymrwymiad i fod yn anwahaniaethol a chynnwys pawb ym mhob agwedd o weithgareddau ein busnes. 

Ond wrth gnoi cil yn falch ynghylch ein holl ymdrechion, gofynnais i mi fy hun, ‘A yw hynny’n ddigon?’ ac ‘A wyf i’n gwybod hynny mewn gwirionedd, neu a wyf i’n rhagdybio gormod?’. 

Caiff fy nehongliad o’n hymdrechion – fel y byddai’n wir yn achos llawer o bobl efallai – ei fframio gan amgylchiadau a phrofiad unigol, ac fel y cyfryw, mae diffyg dealltwriaeth go iawn yn ychwanegu haen sy’n synthetig ac efallai’n afrealistig. Byddai cuddio y tu ôl i ragdybiaethau yn glyd ac yn gyfleus iawn i ni, ond tra bydd hynny’n wir, ni fydd unrhyw ymdrech ddilys i archwilio’r diffygion amlwg a pharhaus yn ein cymdeithas a’u datrys yn ddigonol. 

Sut brofiad yw bod yn ddu? Mae pawb rwyf i wedi ymgysylltu â hwy ynghylch y mater hwn (dysgwyr a chydweithwyr o’r rhwydwaith sy’n bobl dduon) wedi casglu’n bendant fod angen i’r drafodaeth barhau er mwyn cynorthwyo i chwalu rhwystrau a gwella dealltwriaeth. Daeth elfennau sy’n debyg i bawb i’r amlwg ac amlygwyd “braint pobl wyn” fel thema gyson. 

Ydy ni’n gwybod mewn gwirionedd, neu ydyn ni’n tybio gormod? 

Mae cyfeiriadau’n dal i gael eu gwneud at ddiffiniadau o wyn fel “da, glân a gwell” a “du” fel “drwg, budr a dibwys” - ac mae pobl yn dal i deimlo hynny. 

Roedd y gwahaniaethau o ran triniaeth feunyddiol yn amrywio o aflonyddu gan yr heddlu - cael eu hatal a’u cwestiynu heb unrhyw reswm cyfiawn - i uwch academyddion yn cyferbynnu’r parch y bydd eu cymheiriaid a myfyrwyr yn ei ddangos tuag atynt mewn amgylchedd dysgu â’r profiad o staff mewn archfarchnadoedd yn siarad yn araf yn fwriadol â hwy, gan ragdybio diffyg dealltwriaeth. Yn achos profiadau’r un unigolyn o ddefnyddio cludiant cyhoeddus, fe wnaeth hynny amlygu’r ffaith y bydd unrhyw sedd wag wrth eu hymyl a allai fod ar gael yn cael ei hosgoi bob amser nes bydd yr unigolyn olaf yn dod ar y trên, ac ni fydd dewis arall ar gael. 

Cafwyd llawer o enghreifftiau o’r ymddygiad ‘arwahanu’ hwn. Dyma’r gwirionedd anghyfleus – nid newyddion yw hyn, ond realiti. 

Mae unrhyw ymdeimlad fod ein cymdeithas wedi goresgyn rhagfarnau o’r fath yn sgil deddfwriaeth cydraddoldeb – sydd yn ei lle ers cenedlaethau – yn wahanol iawn i’r gwirionedd y mae’n rhaid i bawb ohonom ni ei wynebu. Er y gall ein sefydliad fod yn falch o’i ymdrechion a’i ganlyniadau yn y cyd-destun hwn, nid yw ein cymuned ehangach yn haeddu cael ei disgrifio fel un sy’n hollol gynhwysol. 

Mae angen i bawb ohonom ni herio ein rhagdybiaethau er mwyn ymdrechu ar y cyd i newid ein hagweddau a’n dealltwriaeth o’r rhagfarnau sydd ym mhobman o’n cwmpas ni. Ac mae hyn yn llawer ehangach na lliw ein croen, ble bydd unrhyw nodwedd yn arwain at negyddoldeb a gwahaniaeth canfyddedig. 

Mae’n wir fod angen i’r drafodaeth ddidwyll barhau, ond mae angen i eiriau lywio gweithredu go iawn. 

Fel sefydliad, bydd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn parhau i adolygu dulliau o sicrhau cynhwysiant, a byddwn ni’n mynd ati i annog pobl i siarad yn onest ac yn ddi-flewyn ar dafod er budd ein holl ddysgwyr ac er lles ein holl ddinasyddion. Mae bywydau du o bwys. Mae pob bywyd o bwys.


 

Kathryn Robson, Prif Weithredwr, Addysg Oedolion Cymru 

Kathryn Robson yw Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru. Yn gefnogwr brwd i gyfleoedd dysgu gydol oes i bawb, mae Kathryn wedi ymrwymo i lywio’r agenda addysg oedolion a chynhwysiant yn ei blaen, gan roi mwy o hygyrchedd i ddysgu i gymunedau ledled Cymru.



Gwybodaeth Bellach

Gwefan Addysg Oedolion Cymru 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.